LLWYFAN

LLWYFAN: Y sinema

19 Hydref 2016|Beth all celf ei gyflawni, Jacob Whittaker, LLWYFAN, Ruth Jones, Seán Vicary, Simon Whitehead|

Fel rhan o gynllun LLWYFAN, mae rhaglen o ffilmiau cyfoes gan artistiaid yn cael ei sgrinio yn yr hen Swyddfa Archifau. I’w weld: Dydd Iau 27 / Dydd Gwen 28 / Dydd Sad 29 Hyd 11am-5pm Yr hen Swyddfa Archifau (drws nesaf i’r Castell ac Amgueddfa Tref Hwlffordd), Stryd y Castell, Hwlffordd, SA61 2EF Ruth Jones Vigil 2009 / [...]

LLWYFAN

10 Hydref 2016|Beth all celf ei gyflawni, Jacob Whittaker, LLWYFAN, Newyddion, Prosiectau, Rhôd, Ruth Jones & Andy Wheddon, Ruth Sargeant, Ruth Sergeant, Seán Vicary|

Mae LLWYFAN yn cyflwyno Hwlffordd fel platfform ar gyfer rhaglen o gomisiynau newydd a gweithiau celf sydd eisoes yn bodoli gan artistiaid sy'n byw yn Sir Benfro a’r cyffiniau. Mae'r rhaglen yn adlewyrchu amrywiaeth a dyfnder ymarfer celfyddydau cyfoes yn y rhanbarth, ac yn cynnwys ffilm gan yr artistiaid, gosodiad a pherfformiad sydd gyda'i gilydd [...]

Seán Vicary

10 Hydref 2016|Cydweithwyr, LLWYFAN, Prosiectau, Seán Vicary|

Mae gwaith Seán Vicary yn delio gyda syniadau o dirwedd (mewnol ac allanol) a'n rhyngweithiad cynyddol wleidyddol â'r byd naturiol. Mae ei ddarnau o ddelweddau symudol wedi cael eu darlledu yn y Deyrnas Unedig a’u harddangos ledled y byd. Mae'n gweithio yn sensitif i’r safle, yn casglu gwrthrychau a darnau o falurion ac yn trin [...]

Jacob Whittaker

10 Hydref 2016|Cydweithwyr, Jacob Whittaker, LLWYFAN|

O DC and the Dudes a Sound of Music: dros dri diwrnod mae Jacob Whittaker yn eich gwahodd i rannu eich atgofion cerddorol, i bori, trafod, chwarae a chyfrannu at gasgliad o recordiau finyl sy'n gysylltiedig â'r ardal gan greu cymysgedd unigryw i Hwlffordd. Mae Jacob yn cyfuno’r hen a’r newydd, yn edrych ar y [...]

Ruth Sargeant

10 Hydref 2016|Cydweithwyr, LLWYFAN, Ruth Sergeant|

Dros 400 o lestri yn cyfuno porslen a phrint. Mae pob plentyn yn yr ysgol yn cael ei gynrychioli: gydag addewid ar gyfer y dyfodol yn cael ei osod ar ganol y llwyfan. Gweithiodd plant a staff Ysgol Gynradd Fenton gyda’r artist a’r gwneuthurwr Ruth Sargeant i gynhyrchu gosodiad yn cynnwys dros 400 o lestri. [...]

Rhôd

10 Hydref 2016|Cydweithwyr, Jacob Whittaker, LLWYFAN, penny d jones, Rhôd, Seán Vicary|

Mae Rhôd yn brosiect a redir gan artistiaid sy'n cymryd ei enw o felin ddŵr o’r unfed ganrif ar bymtheg. Mae'r pwyslais ar greu gweithiau celf sy’n benodol i safle - cerfluniaeth, gosodiad, perfformiad, celf sonig a fideo - ochr yn ochr â symposia, sgyrsiau a chyflwyniadau. Ymysg y prosiectau mae artistiaid Rhôd wedi cymryd [...]

Ruth Jones & Andy Wheddon

10 Hydref 2016|Cydweithwyr, LLWYFAN, Ruth Jones & Andy Wheddon|

Mae delweddau gweledol, samplau electronig a lleisiau’r cantorion Maggie Nicols ac Emily Laurens yn cyflwyno’r ôl, yn myfyrio rhwng galaru am ymyriad meddygol-dechnolegol wrth esgor ac adennill y profiad dynol. Mannau gwledig yn aml yw'r man cychwyn i Ruth Jones wrth iddi greu mannau lle gall profiadau trothwy neu drothwyol ddigwydd. Mae ei gosodiadau a [...]