Mae delweddau gweledol, samplau electronig a lleisiau’r cantorion Maggie Nicols ac Emily Laurens yn cyflwyno’r ôl, yn myfyrio rhwng galaru am ymyriad meddygol-dechnolegol wrth esgor ac adennill y profiad dynol.

Mannau gwledig yn aml yw’r man cychwyn i Ruth Jones wrth iddi greu mannau lle gall profiadau trothwy neu drothwyol ddigwydd. Mae ei gosodiadau a digwyddiadau ffilm yn defnyddio patrymau defodol i dynnu cynulleidfaoedd i mewn i fyfyrio ar le, presenoldeb a rhythm.

Mae Andy Wheddon yn defnyddio offerynnau electronig cartref wedi’u cyfuno â recordiadau maes, syntheseiswyr a chyfrifiaduron i greu ei gerddoriaeth. Mae ei sain yn organig; mae curiadau drwm a bas yn cael eu datgymalu yn ansoddau sy’n gwanhau.

I’w weld:
Dydd Iau 27 / Dydd Gwen 28 / Dydd Sad 29 Hyd
11am–5pm
Yr hen Swyddfa Archifau
(drws nesaf i’r Castell ac Amgueddfa Tref Hwlffordd)
Stryd y Castell
Hwlffordd
SA61 2EF

Perfformiad byw:
Nos Iau 27 Hyd 7:30pm
Eglwys y Santes Fair
8 Stryd Fawr
Hwlffordd SA61 2DA

Am ragor o wybodaeth ar leoliadau ac artistiaid sy’n cymryd rhan, gweler y daflen LLWYFAN ar-lein isod, neu lawrlwythwch fel PDF yma