Mae LLWYFAN yn cyflwyno Hwlffordd fel platfform ar gyfer rhaglen o gomisiynau newydd a gweithiau celf sydd eisoes yn bodoli gan artistiaid sy’n byw yn Sir Benfro a’r cyffiniau. Mae’r rhaglen yn adlewyrchu amrywiaeth a dyfnder ymarfer celfyddydau cyfoes yn y rhanbarth, ac yn cynnwys ffilm gan yr artistiaid, gosodiad a pherfformiad sydd gyda’i gilydd yn creu corff o waith sydd yn ei dro yn gyffrous, yn procio’r meddwl ac yn ysbrydoledig.
Wedi’i ffurfio o fewn cyd-destun y Lab, rhaglen gelfyddydol ac adfywio Hwlffordd, mae’r gwaith yn cael ei gyflwyno mewn safleoedd ar draws y dref, wedi’u gwasgaru ar hyd y dirwedd drefol ac yn agor trafodaeth rhwng yr artistiaid, y gwyliwr a realiti ffisegol lle. Drwy leoli’r gwaith mewn gofodau gwag sy’n cael eu tanddefnyddio, mae’r gorffennol a’r presennol yn cydblethu ac yn gorgyffwrdd, gan wahodd y gwylwyr i ddarganfod safbwyntiau newydd yn yr hyn maent yn ei weld ac yn ei deimlo o gwmpas eu hunain.
Artistiaid sy’n cymryd rhan
Ruth Jones and Andy Wheddon: Partus
Rhôd: Noticeboard Takeover
Ruth Sergeant: Hwyl
Seán Vicary: Chain Home West
Jacob Whittaker: The Found of Music: A Mix for Haverfordwest
Am ragor o wybodaeth ar leoliadau ac artistiaid sy’n cymryd rhan, gweler y daflen LLWYFAN ar-lein isod, neu lawrlwythwch fel PDF yma