Gan ddefnyddio’r gorffennol i ysbrydoli’r dyfodol, mae gan, Transition Haverfordwest genhadaeth i helpu’r dref sirol i gychwyn ar gyfnod newydd o lwyddiant a thwf, gydag economi wedi’i adfywio a’i ail-leoli wrth galon rhwydwaith o gymunedau lleol ffyniannus.
Mae Transition Haverfordwest yn anelu i:
Greu cyflogaeth leol trwy:
- ôl-ffitio tai ac adeiladau cymunedol a masnachol presennol i’w gwneud nhw’n gynnes ac ynni effeithlon
- cynhyrchu mwy o’n hanghenion ynni o ffynonellau adnewyddadwy
- cynyddu hunangynhaliaeth o ran bwyd a thrafnidiaeth
- adeiladu synnwyr cryf o gymuned trwy ddatblygu asedau yn gyfunol:
– cynlluniau ynni adnewyddadwy
– adeiladau, gerddi a pherllannau cymunedol
– mannau gwyrdd cyhoeddus
– tai a thrafnidiaeth lleol
– gwasanaethau gofal ac iechyd
– ‘arian cyfredol’ lleol
– gwyliau a dathliadau cymunedol
Mae Transition Haverfordwest yn cael ei reoli gan Grŵp Llywio, gydag aelodau o’r gymuned leol, a phob un yn cynrychioli gwahanol fuddiannau e.e. Bwyd Lleol, Ynni, Amaethyddiaeth sy’n cael ei gefnogi gan y Gymuned, Gwyliau a Dathliadau Cymunedol ayyb. Mae gan y rhwydwaith hanes o brosiectau llwyddiannus, mae manylion am y prosiectau hyn i’w cael ar y wefan: www.transitionhaverfordwest.org.uk
O fewn y prosiect hwn bydd Transition Haverfordwest yn:
- rhwydweithio gyda grwpiau Transition eraill ar draws Cymru a thu hwnt i godi ymwybyddiaeth am y prosiect a’i lwyddiannau
- helpu i godi ymwybyddiaeth yn lleol am y prosiect a datblygu’r capasiti lleol drwy annog a denu gwirfoddolwyr, a thrwy hynny cefnogi cynaliadwyedd hir dymor y prosiect
- ymgymryd â phrosiectau celfyddydol i helpu i ail-feddwl ac i ddelweddu’r ffordd y bydd angen i ni fyw yn y dyfodol heb ddibynnu ar danwyddau ffosil
- cymryd rhan yn y broses gynllunio cymdogaeth wedi’i ysgogi drwy’r Labordy Cydlifiad, i ganolbwyntio ar a datblygu gwyrddio glan yr afon ac yng nghanol y dref
- ymchwilio i a datblygu cynlluniau trafnidiaeth cynaliadwy sy’n cysylltu mannau allweddol yn y dref ac ar hyd lan yr afon (cynllun cymdogaeth)
- ymchwilio i gyllid posib ar gyfer prosiect ynni adnewyddadwy sy’n canolbwyntio ar yr afon a sefydlu grŵp cyswllt.