12193277_10153381403833432_5135745003869931852_n

River of lights: llun gan Jenny Blackmore

Cwmni buddiannau cymunedol yw spacetocreate, sy’n gweithio o ganolfan ym Mhrosiect Ieuenctid a Chymunedol Garth, yn ardal Ward Garth sy’n dod o dan glwstwr Cymunedau’n Gyntaf Sir Benfro.

Guy Norman a Pip Lewis yw sylfaenwyr a chyd-gyfarwyddwyr y cwmni. Mae’r ddau yn darparu cyfeiriad artistig a chyfoeth o sgiliau ategol a phrofiad sy’n rhychwantu datblygu cymunedol a’r celfyddydau.

Sefydlwyd spacetocreate yn 2007, y nod yw gwella mynediad at ac ehangu cyfranogiad yn y celfyddydau gweledol yn Sir Benfro. Dros y naw mlynedd diwethaf mae’r sefydliad wedi dylunio a chyflwyno ystod amrywiol o brosiectau celfyddydau gweledol cyfranogol proffesiynol, sydd wedi grymuso cymunedau a methrin hyder a hunan-barch y cyfranogwyr, gan arwain at fuddion i’r unigolion ac i bawb yn y gymdeithas.

O 2011, gyda chefnogaeth grŵp cynghori, dechreuodd spacetocreate ganolbwyntio ar ddatblygu a chyflwyno takingpartwest, rhaglen beilot o gelfyddydau gweledol cyfranogol yn Hwlffordd. Roedd y rhaglen yn cynnwys mwy na 1,000 o gyfranogwyr a chyfanswm cynulleidfa o thua 4,000 o bobl, a denodd gwerth £35,000 o gyllid ar gyfer 20 o brosiectau celfyddydau cymunedol.

Agorodd y peilot y drws i’r posibilrwydd o ffyrdd mwy arloesol ac arbrofol o weithio, yn ogystal â llwyddo i ennyn cefnogaeth gymunedol i rôl y celfyddydau mewn adfywio.

Mae Cydlifiad yn gyfle i adeiladu ar y sylfeini hyn, gan godi dyheadau a datblygu’r capasiti i brofi ffyrdd newydd arbrofol o weithio, meithrin cydweithio, wedi’i ysbrydoli gan ymarfer gyfoes ar draws y Deyrnas Unedig.

Byddwn yn dod ag:

  • arbenigedd mewn dyfeisio a chyflwyno prosiectau celfyddydau gweledol yn y gymuned gan gynnwys profiad o weithio ag artistiaid proffesiynol gydag amrywiaeth o sgiliau arbenigol
  • cysylltiadau helaeth a hanes o weithio gydag ysgolion a sefydliadau cymunedol lleol, yn ogystal ag mewn cymunedau sy’n dioddef o amddifadedd lluosog
  • profiad o bartneriaeth aml-asiantaeth yn gweithio ar amrywiaeth o wahanol raddfeydd
  • arbenigedd rheoli strategol gan gynnwys brofiad o godi a rheoli cronfeydd yn llwyddiannus o amrywiol ffynonellau gan gynnwys Ewrop ac ymddiriedolaethau a sefydliadau Elusennol
  • gan gyd-weithio’n agos ag iDeA Architects, bydd spacetocreate yn darparu cyfeiriad creadigol cyffredinol i Cydlifiad, yn ymgysylltu â’r gymuned a rhanddeiliaid eraill mewn prosesau arbrofol i ail-ddychmygu’r dref, gan ddefnyddio ymarfer gorau yn y Celfyddydau, Pensaerniaeth a dylunio trefol.