Fel rhan o’r bartneriaeth Cydlifiad, bydd PLANED yn darparu:

  • Rheolaeth ariannol a gweinyddu arian grant Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Cysylltu â Chyngor Celfyddydau Cymru gan gynnwys cwblhau a chyflwyno adroddiadau cynnydd
  • Recriwtio a chyflogi Cynorthwyydd Prosiect (hysbysebu’r swydd, cefnogi creu rhestr fer o ymgeiswyr, cefnogi’r broses o gynnal cyfweliadau a dewis yr ymgeisydd llwyddiannus, rheoli llinell)
  • Ceisiadau am gyllid pellach fel y corff blaen
  • Creu polisïau a gweithdrefnau cyfoes ar gyfer y bartneriaeth Cydlifiad
  • Atebolrwydd ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol
  • Archwilio a systemau prosesu gwybodaeth
  • Lle i gynnal cyfarfodydd, amser staff ychwanegol pan fo angen, offer (gliniaduron, cyfrifiaduron, defnyddiau ysgrifennu, taflunwyr, sgriniau ayyb)
  • Gwasanaeth Cyfieithu i’r Gymraeg
  • Cysylltiadau strategol a chymunedol
  • Arbenigedd ymgysylltu â’r gymuned ehangach a phecyn cymorth
  • Datblygiad yn seiliedig ar leoliad
  • Pecyn cymorth cynllunio gweithredu
  • Ymarfer cynaliadwy, teg a chynhwysol
  • Cysylltiadau i raglenni LEADER ehangach – PLANED fel y corff sy’n gweinyddu i Grŵp Gweithredu Lleol Sir Benfro
  • Mae PLANED yn eistedd ar ac yn cyfrannu at y Bwrdd Gwasanaethau Lleol/Cynllun Integredig Sengl (yr Amgylchedd a’r Economi)
  • Arweinyddiaeth yn seiliedig ar leoliad
  • Cefnogaeth ar gyfer sefydlu mentrau cymdeithasol newydd