p1180197

Mae iDeA Architects yn cynnig arbenigedd yn y broses ddylunio o’r cysyniad i gwblhau’r gwaith, gyda’n profiad o ddylunio adeiladau newydd, cadwraeth hanesyddol, dylunio cynaliadwy ac ecolegol ac adeiladau cymunedol ac addysgol. Mae gan y ddau gyfarwyddwr brofiad dysgu parhaus ar lefel gradd, sy’n ein galluogi ni i edrych ar ystod ehangach o brosiectau, gan gynnwys adfywio trefol a’r rhyngwyneb Celf/Pensaernïaeth i wella’r dyluniad trefol.

Mae’r cefndir hwn wedi ein helpu ni i ddatblygu dull arbrofol y byddwn yn ei ddefnyddio wrth weithio o fewn ‘labordy tref’ y prosiect. Meddwn ar y sgiliau creadigol a dadansoddol sydd eu hangen i ddatblygu arbenigedd lleol manwl ac i fynd i’r afael â’r tasgau allweddol ar gyfer arwain y consortiwm Cydlifiad ac i ddatblygu gweledigaeth i’r dref trwy broses o:

  • Adnabod asedau
  • Gweld posibiliadau newydd a’u meithrin nhw
  • Adnabod a diffinio’r pethau sydd ar goll
  • Creu’r amodau cywir ar gyfer twf
  • Denu pobl ac egni creadigol
  • Fel penseiri rydym wedi arfer edrych ar bethau o’r tymor hir ac ein rôl ni fydd cael gweledigaeth greadigol a fydd yn cefnogi ac yn meithrin yr adfywiad strategol o Hwlffordd dros y ddegawd nesaf.

Bydd iDeA Architects yn gweithio’n gyson i ddarparu cyfeiriad creadigol mewn cydweithrediad â spacetocreate, ac i gefnogi’r bartneriaeth trwy gyfathrebu, rhwydweithio, rheoli, cynllunio a thrafod gyda’r asiantaethau eraill a fydd yn cyfrannu at ddatblygiad ac adfywiad y dref.