ideaslab

Mae ‘Lab Hwlffordd’ yn fenter gan Cydlifiad, prosiect creadigol ar y cyd rhwng PLANED, spacetocreate, iDeA Architects, Pembrokeshire County Council a Transition Haverfordwest. Nod y fenter yw dyfeisio a phrofi ffyrdd newydd a dychmygol o weithio yn Hwlffordd a fydd yn dod â’r gymuned ynghyd i ysbrydoli a siapio’r broses o gynllunio, dylunio ac adfywio trefol.

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Penfro bydd Cydlifiad yn trefnu nifer o brosiectau arbrofol a chreadigol a fydd yn dod â rhanddeiliaid at ei gilydd mewn ffyrdd newydd, wedi’i ysbrydoli gan ymarfer rhagorol yn y celfyddydau a dylunio, cynllunio ac adfywio trefol, yr amcan yw ail-ddychmygu’r dref a:

  • datblygu modelau arloesol ar gyfer cydweithio
  • defnyddio dulliau creadigol i ymgysylltu â’r gymuned gyda chyfleoedd adfywio sy’n gysylltiedig â’r afon
  • helpu pobl i feddwl am Hwlffordd mewn ffordd wahanol
  • arwain newid mewn ymarferion unigol a chyfunol y partneriaid sydd ynghlwm â’r prosiect.

Gwyliwch gyflwyniad i’r Lab gan y gwneuthurwr ffilm Sharron Harris.

I ddilyn y stori hyd yn hyn edrychwch ar y llinell amser sy’n cofnodi’r digwyddiadau yn nhrefn amser o gyhoeddi Syniadau: Pobl: Lleoedd hyd heddiw.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am Syniadau: Pobl: Lleoedd, menter strategol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r chwe phrosiect celfyddydau ac adfywio yng Nghymru.

Delwedd: Cerdyn post Lab Syniadau a gafodd ei ddylunio gan Heidi Baker