‘Chwilio am y Canol’
Y Prosiect Ar ddechrau fy nghomisiwn roeddwn yn crwydro o gwmpas y dref bob dydd. Roeddwn yn mynd i ble bynnag oedd yn ysgogi fy niddordeb. Bues mewn eglwysi gwag, yn gwylio pobl yn croesi’r pontydd niferus sy’n rhychwantu’r afon a des i arfer â llif cyson a sŵn y cerbydau yn gyrru o amgylch [...]