Y Prosiect
Ar ddechrau fy nghomisiwn roeddwn yn crwydro o gwmpas y dref bob dydd. Roeddwn yn mynd i ble bynnag oedd yn ysgogi fy niddordeb. Bues mewn eglwysi gwag, yn gwylio pobl yn croesi’r pontydd niferus sy’n rhychwantu’r afon a des i arfer â llif cyson a sŵn y cerbydau yn gyrru o amgylch y gylchffordd a thrwy brif wythïen y dref, y Stryd Fawr. Un diwrnod ceisiais dynnu llun o Sgwâr y Castell heb gar yn y llun. Ar ôl aros am amser hir heb unrhyw arwydd o’r traffig yn arafu penderfynais fod rhaid i mi wneud rhywbeth ac felly pwysais y botwm ar y groesfan i gerddwyr. Rhoddodd hyn ychydig o eiliadau gwerthfawr i mi i ddal yr olygfa cyn i’r goleuadau newid i wyrdd eto. Bob dydd roeddwn yn gofyn i bobl mewn caffis, ar gampysau coleg, mewn amgueddfeydd, siopau, tafarndai, gwestai ac ar y strydoedd; ‘Sut mae dod o hyd i’r canol’ ac yn bwysicach ‘Ble mae’r canol i chi?’
Cefais fy synnu gan ba mor ddifrifol oedd pobl yn ymateb:
‘Maen nhw wedi mynd â’r galon allan o Hwlffordd’
‘Mae hon yn dref farchnad heb farchnad’
‘Sgwâr y Castell oedd y canol o’r blaen, roedd yna goeden yno yr oeddwn yn arfer chwarae arni pan oeddwn yn blentyn, ond concrid sydd yno nawr’
‘Mae’r canol yn fratiog ac yn ddryslyd, mae yna flociau ym mhobman.’
Meddyliais ‘Sut mae posib dod o hyd i’r canol os nad yw’n bodoli bellach?’ a ‘I be awn ni i chwilio am ganol Hwlffordd?’ Roedd fy ffôn symudol hyd yn oed yn cael trafferth dod o hyd i rywbeth i gysylltu iddo wrth iddo chwilio am signal. Sylweddolais nad oedd technoleg fodern, efallai, yn fwy addas i ddod o hyd i ganol tref nag ydyw i chwilota i’w gorffennol.
Gan gadw hynny mewn cof, penderfynais edrych ar hanes Hwlffordd. Yn ystod fy ymchwil, daethais ar draws delwedd o Emmeline Pankhurst yn sefyll ar do’r fynedfa i Westy’r Mariners. Dysgais fod y swffragetiaid wedi aros yn y gwesty a’u bod nhw wedi targedu Sir Benfro am ei fod yn lle blaengar lle efallai y gallent fod wedi ennill eu sedd gyntaf. Mae’r llun yn dangos Pankhurst yn cynnal llys gyda channoedd o bobl yn llenwi’r stryd islaw iddi, moment hanesyddol a ddigwyddodd yn ganol Hwlffordd. Fe es i mewn i Westy’r Mariners a dechrau sgwrs â’r ferch wrth y dderbynfa. Nid oedd yna unrhyw arwydd o’r digwyddiadau hanesyddol oedd wedi digwydd a phan ofynnais fy nghwestiynau cyffredin iddi ei hateb oedd ‘Mae’n codi cywilydd arnaf, mae’r gwesteion yn mynd allan am dro ac yn dod yn ôl yn fuan ac yn gofyn i mi ‘Ble mae’r Canol’, ac nid wyf yn gwybod sut i ateb’.
Ar ôl sylweddoli bod gan ferched hanes mor gryf yn y dref es ati i edrych ar ddefnydd archif, dillad a phaentiadau yn Amgueddfa Scolton ac Archifau Sir Benfro. Fe wnes ddarganfyddiad pwysig arall, sef pysgotwragedd Llangwm. Roedd y lluniau yn dangos merched difrifol yr olwg ar strydoedd Hwlffordd yn y 19eg a’r 20fed ganrif. Cariai’r merched fasgedi ac roeddynt wedi gwisgo mewn steil nodweddiadol nad oedd yn ymddangos ei fod wedi newid llawer dros amser. Dysgais fod y merched yn arfer cerdded neu deithio ar gefn asyn i ganol y dref ar hyd yr afon i werthu cocos, cregyn gleision a phenwaig oedd wedi eu dal uwch i fyny’r afon. Mae’n debyg eu bod yn eu gwerthu yn y farchnad bysgod ar Dew Street. O ganlyniad roedd gan y merched gysylltiad cryf â’r afon a pherthynas unigryw â chanol y dref.
Yn ôl ym Maenordy Scolton, aeth y swyddog casgliadau â mi i fyny i’r atig a buom yn chwilio trwy focsys, a oedd wedi cael eu cuddio am flynyddoedd lawer, roeddynt yn llawn gwisgoedd cyfoes o’r un cyfnod â merched Llangwm. Wrth i ni dynnu sgarffiau, sgertiau gwlân a siacedi wedi’u gwnïo â llaw allan o’r bocsys a’u gosod allan cefais fy synnu gan natur ymarferol y dillad a fy nghynhyrfu gan y bywydau caled a’r gwaith corfforol roeddynt yn eu dwyn i gof. Teimlais fodolaeth pobl oedd yn rhaid iddynt fod yng nghanol y dref er mwyn gwneud eu bywoliaeth.
Ystyriais eu presenoldeb nhw yng nghyd-destun ein dyddiau ni, yn gweithredu fel cynrychiolaeth o’r teimladau presennol o golled, gwacter, dryswch a bod ar goll. Wrth iddynt gario eu basgedi gallent drosgynnu amser a’n helpu ni i feddwl am beth fydd y dyfodol yn ei gynnig.
Y Perfformiad
‘Ble mae’r canol?’ yw uchafbwynt y syniadau a’r profiadau hyn. Ar 21ain Ionawr 2017, bydd pedair o ferched yn gwisgo’r dillad traddodiadol roedd pysgotwragedd Llangwm yn eu gwisgo yn dod i mewn i’r dref o bedwar lleoliad gwahanol. Bydd pob merch yn gofyn i’r cyhoedd am gyfarwyddiadau i gyrraedd y canol ac yn holi a ydynt wedi gweld rhywun arall sy’n debyg iddi hi. Yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau syml hyn bydd y merched yn cerdded i’r man lle mae’r cyhoedd wedi’u cyfeirio. Pan maent yn cyrraedd y lleoliad, os ydynt yn cwrdd ag un o’r merched eraill byddant yn dod at ei gilydd. Y naill ffordd neu’r llall, mae rhaid i’r merched barhau i symud, a gofyn i bobl am gyfarwyddiadau i’r canol nes eu bod nhw i gyd yn cyfarfod mewn un man… y canol?
Y Gogledd
Mae’r pedwar man cychwyn o fewn milltir o’r dref ac yn symbylu sut mae’r canol wedi newid dros amser. Yn y gogledd, ardal Parc Manwerthu’r Llwyn Helyg, gerllaw Prendergast, oedd lle’r oedd y Cymry yn aros cyn iddynt deithio i ‘Sir Benfro Saesneg’. Heddiw mae siopau mawr ‘ar gyrion y dref’ yn dominyddu’r dirwedd hon.
Y de
Felly hefyd, mae’r Tesco Extra yn y de wedi newid y ffordd mae’r dref yn gweithio. Ar un adeg, roedd Dew Street sydd gerllaw yn llawn tafarndai bach, gweithdai a marchnadoedd dyddiol, ond erbyn heddiw mae’n cael ei nodweddu gan geir wedi parcio, traffig sy’n symud a busnesau bach sy’n wynebu trafferthion.
Y Dwyrain
Yn y dwyrain mae Ffynnon Higgons, wedi’i lleoli ar lannau afon Cleddau. Byddai merched Llangwm, oedd o dras Fflandrysaidd, wedi dod i mewn o’r cyfeiriad hwn. Am ganrifoedd lawer dilyn yr afon i mewn i’r dref oedd y ffordd draddodiadol i gyrraedd y canol. Mae’r ffynnon hon yn dyddio’n ôl i’r oesoedd canol ac yn ôl y sôn nid yw hi erioed wedi sychu.
Y Gorllewin
I’r gorllewin o’r dref mae The Hive, grŵp ieuenctid cymunedol sy’n gweithio gyda phobl ifanc mwyaf bregus yr ardal. Mae’r ganolfan yn fy atgoffa i o amcanion y comisiwn sef i ‘ymchwilio i’r gwerthoedd emosiynol dyfnach am le sy’n mynd y tu hwnt i yrwyr corfforol, masnachol ac economaidd ar gyfer newid’. Mae’r egwyddor hon yn flaenllaw i fy ngwaith. Mae cychwyn o’r fan hon yn bwysig i gydnabod economeg gymdeithasol y dref.
Bydd y perfformiad yn dod i ben gyda sgwrs gan yr artist a thrafodaeth y tu mewn i siop wag hanner ffordd i fyny’r Stryd Fawr.
Synfyfyrion
Un diwrnod ar ôl cerdded o siopau generig Parc Manwerthu’r Llwyn Helyg daethais i mewn i’r dref dros yr Hen Bont, ar draws Sgwâr yr Alarch, ar hyd Stryd y Bont ac i fyny tuag adeiladau tâl y Stryd Fawr. Roedd yr haul yn tywynnu, ac roedd yr hen adeiladau wedi’u bordio i fyny yn amlwg iawn. Roedd haen o faw yn gorchuddio nifer o’r ffenestri ac roedd y cyferbyniad â siopau glân, modern a disglair ‘y tu allan i’r dref’ i’w weld yn glir iawn. Cefais fy nharo gan don o dristwch. Fe’m trawodd bod gan galon y dref gymaint mwy i’w gynnig, cymaint mwy o botensial a chymaint mwy o ddimensiynau oedd heb gael eu gwireddu eto. Mae yna gymaint mwy o gyfleoedd ar gyfer creadigrwydd a dychymyg i’w gweld yn y canol, tra bod y parc manwerthu y tu allan i’r dref eisoes wedi cyrraedd yr optimwm o’r hyn y gall ei gynnig.
Gall celf gyfrannu at werth diwylliannol wedi’i ysbrydoli gan arwyddocâd pensaernïol a hanesyddol unigryw Hwlffordd, wrth gydnabod yr anghydraddoldeb a’r gwirionedd creulon sy’n wynebu pobl. Hyderaf os bydd yna fomentwm y bydd pobl yn creu canol sydd yn werth chwilio amdano.
Ymunwch â ni ar 21ain Ionawr.
Janetka Platun