Mae Studio Weave yn bractis pensaernïol Siartredig gan RIBA yn Llundain. Ynghyd â’n parneriaid Architecture 00 [zero zero], rydym yn mwynhau cydweithredu mewn amgylchedd a rennir lle mae cynllunwyr, penseiri, rhaglenwyr ac economegwyr strategol, trefol a chymdeithasol yn ymarfer gwaith cynllunio y tu hwnt i’w ffiniau traddodiadol. Ein nod yw saernïo cyfuniad o lawenydd, hiwmor ac ymchwiliad i bob un o’n prosiectau gyda meddwl agored a manylrwydd technegol. Cawn ein swyno gan chwarae a chynllunio chwareus a chredwn fod chwarae’n bwysig ac ymarferol, nid yn ymyriad segur yn unig.

Testun cyffro i Studio Weave yw dod i adnabod Hwlffordd yn raddol a dod yn wynebau mwy cyfarwydd o gwmpas y dref. Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried sut gallwn esblygu’r prosiect comisiwn cyfalaf ar gyfer y dref a datblygu cynnig sydd â’r gallu i roi cychwyn a sbarduno prosiectau pellach yn ei sgil. Gwelwn y comisiwn hwn yng nghyd-destun deinamig y ‘darlun llawnach’ o Hwlffordd ac ystyriwn pa gysylltiadau posibl y gellid eu sefydlu, a pha weithgarwch ar y cyd y gellid eu hwyluso.

Fel practis, rydym wedi’n swyno gan y rôl bwerus gall straeon eu chwarae o ran cynllunio, fel dull i esgor ar gynigion arloesol ac i ymgysylltu â phawb sy’n ymwneud â phrosiect – yn breswylwyr, ymgynghorwyr a defnyddwyr o bob oed. Fel plant, dysgwn drwy straeon. Wrth i ni dyfu, rydym yn cyfathrebu â’r byd drwy adrodd straeon, yn canfod ein lle ynddo ac yn darganfod sut mae’n bosibl i ni effeithio ar y byd o’n cwmpas. Dylai ein gwaith yn llunio’r amgylchedd o’n cwmpas geisio ystyried sut rydym yn deall ac y gwnawn synnwyr o’r byd. Nid yw hyn yn gyfyngedig i’r hyn a welwn, ond mae’n cynnwys pob synnwyr. Nid yw’n gyfyngedig i reswm gwrthrychol, ond mae’n gymhleth ac emosiynol. Mae stori, neu naratif, yn agor y posibiliadau hyn, yn ein galluogi i ystyried ac felly, newid neu greu’r holl bethau dros dro hynny ddaw â lle’n fyw.

Fel rhan o’r prosiect hwn, rydym yn y broses o ddatblygu naratif tref Hwlffordd ac adrodd stori i archwilio ei berthynas gyda’r Cleddau yn y dyfodol. Wrth i’r prosiect ddatblygu, bydd y naratif, wrth ei rannu’n esblygu’n barhaus. Fe ychwanegir penodau a chymeriadau newydd mewn ymateb i syniadau lleol a dychymyg. Rydym yn gobeithio y bydd y stori’n arwain at sgyrsiau amrywiol ac agored ac y bydd gan bobl y rhyddid i ddychmygu a chymryd rhan yn gwireddu’r cynnig.

ddychmygu a chymryd rhan yn gwireddu’r cynnig.

Gael gwybod mwy am Studio Gwehyddu ar eu gwefan: www.studioweave.com

Credydau Llun: Studio Weave