Yn ystod ein hymweliadau â Hwlffordd rydym wedi cwrdd ag amrywiaeth eang o breswylwyr, ac wedi mwynhau cael safbwyntiau lleol ar ddatblygiad hanesyddol, a naws am le yn y dref.

Tra bod comisiwn Janetka Platun yn canolbwyntio ar ‘Chwilio am y Canol’, rydym ni wedi canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth o berthynas y dref â’i hafon, o’r dyddiau pan oedd llongau hwylio yn cario pobl, deunyddiau a chynnyrch i mewn i’r porthladd ac allan i’r byd ar hyd afon weithiol, i weithgareddau hamdden fwy diweddar pan roedd torfeydd o bobl mewn cychod rhwyfo bach yn teithio ar ei hyd, i ddatblygiad cyfoes heddiw sy’n cael ei nodweddu gan adeiladau newydd ar lan yr afon ac amddiffynfeydd rhag llifogydd.


Gyda’i glannau meddal wedi’u ffinio gan ddolydd a gwelyau cyrs llanw, a adwaenir yn lleol fel ‘halwyndiroedd,’ mae’r afon bob amser wedi bod ac yn parhau i fod, yn llinyn naturiol yn rhedeg drwy ganol y gymuned

Yn y blog diwethaf fe wnaethom gyflwyno ein proses o ddatblygu naratif ar gyfer Hwlffordd, gan ddefnyddio adrodd straeon i archwilio perthynas y dref ag Afon Cleddau. Mae’r stori rydym wedi ei hysgrifennu yn tynnu ar y gorffennol ac yn dychmygu dyfodol o safbwynt yr afon a’r ecosystem mae’n ei chefnogi o fewn ei dyfroedd a’i hyd.


Yn ein blog nesaf byddwn yn disgrifio sut mae hyn wedi bwydo’r cysyniad sy’n datblygu ar gyfer gwaith celf cyhoeddus yn Hwlffordd… .

 

Delweddau Sylw tynnu sylw at rai o bwyntiau yn yr afon. Credydau Delwedd: Studio Weave.