Dros dair blynedd gyntaf y cyllid Syniadau Pobl Lleoedd, Cyngor Celfyddydau Cymru, mae rhaglen o gomisiynau artistiaid sy’n cynnwys y gymdeithas wedi creu cyfleoedd i bobl Hwlffordd i weithio gydag artistiaid lleol a ledled y DU.

Roedd y rhaglen yn anelu at newid canfyddiadau pobl o Hwlffordd, ehangu dealltwriaeth o’r hyn y gall celf fod ac archwilio sut y gall artistiaid wneud cyfraniad at adfywio.

Mae’r comisiynau wedi amrywio o ran cwmpas a maint o raddfa fach a chanolig hyd i un comisiwn cyfalaf ar raddfa fwy. Mae micro-linyn o’r rhaglen gomisiynu hefyd wedi cael ei ddatblygu fel mainc arbrofi ar gyfer syniadau newydd.

Comisiynau Presennol

Chwilio am y Canol

searching-for-the-centre

Mae meddwl confensiynol yn rhagdybio bod gan dref neu y dylai tref gael canol, ond beth yw canol tref a sut mae ei ddiffinio? Trwy ymgysylltu ag ystod o bobl a rhanddeiliaid yn y dref, datblygodd yr artist Janetka Platun y prosiect Chwilio am y Canol rhwng mis Medi a Chwefror 2017, gan roi cyfle i ymchwilio i seico-ddaearyddiaeth Hwlffordd a chreu gwaith celf aml-rifyn yn dal ac yn cyfathrebu ei chanfyddiadau.

Mae mwy o wybodaeth a manylion am y comisiwn ar gael yma.

 

Comisiwn Cyfalaf

IMG_1892 (1)

 

Yn dilyn cyfweliadau ar 18 Tachwedd 2016, penodwyd Studio Weave y practis celf a phensaernïaeth sydd wedi ennill gwobr RIBA i greu gwaith celf parhaol ac i brofi ffyrdd newydd o weithio ac ailgysylltu pobl, trwy ymgysylltu â’r celfyddydau, yn y broses o adfywio’r dref.

Dechreuodd y gwaith ym mis Ionawr gyda’r bwriad o gwblhau’r comisiwn erbyn diwedd mis Hydref 2017.

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r comisiwn drwy’r dolenni yma:

Cyflwyniad gan Studio Weave

Comisiynau’r Gorffennol

Llwyfan – rhaglen tri diwrnod o gelf gyfoes

platform1

Roedd LLWYFAN yn cyflwyno Hwlffordd fel llwyfan ar gyfer rhaglen o gomisiynau newydd a gweithiau celf sy’n bodoli eisoes gan artistiaid sy’n byw yn ac o gwmpas Sir Benfro. Roedd y rhaglen yn adlewyrchu amrywiaeth a dyfnder  ymarfer celf gyfoes yn y rhanbarth, roedd yn cynnwys ffilm, gosodiad celf a pherfformiad gan artistiaid a oedd gyda’i gilydd yn creu corff o waith a oedd yn ei dro yn gyffrous, pryfoclyd ac ysbrydoledig.

Cewch wybod mwy yma.

 

Porthmon Sir Benfro

drover cow

Yn ystod Gwanwyn/Haf 2016, creodd yr artist a’r gwneuthurwr ffilm sydd wedi ennill gwobr BAFTA, Karen Ingham, Porthmon Sir Benfro: gosodiad ffilm, a ddangoswyd fel rhan o Wythnos Gŵyl Hwlffordd ym mis Gorffennaf 2016.

Mae Porthmon Sir Benfro yn waith celf, sy’n cynnwys y gymdeithas, ymatebol i safle a symudol sy’n tynnu ar ac yn adlewyrchu ar y cydberthnasau rhwng Hwlffordd a’r ardal wledig ac arfordirol mae’n eu gwasanaethu. – Karen Ingham

Cafodd y gwaith hefyd ei arddangos yn Oriel y Parc, Tyddewi trwy gydol mis Awst, gallwch ei wylio ar sianel Youtube Karen yma.  Os ydych eisiau fersiwn HD sgrin lawn, cysylltwch â Karen trwy flog y prospect: https://studiowestorguk.wordpress.com.

Mae llyfr artist, yn cynnwys lluniau llonydd ymchwil ac yn datgelu’r cyd-destun a’r cysyniadau y tu ôl i’r gwaith ar gael i’w weld a’i lawrlwytho yma.

Black Diamond

Black diamond

Mae Black Diamond yn brosiect sy’n cyfuno hanes a cherddoriaeth afon Cleddau Wen i gynhyrchu trac cerddoriaeth ref gyda phobl Hwlffordd

Archwiliodd Serena Korda hanes a mytholeg  afon Cleddau Wen, sy’n llifo trwy Hwlffordd, a gweithiodd gyda cherddorion lleol, a’r cynhyrchydd Andy Wheddon, i gynhyrchu trac ref ar gyfer Hwlffordd.

Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar gael yma a gallwch wylio fideo Sharron Harris yn dogfennu’r comisiwn yma.

Comisiynau bach

Technoleg Wyllt

info-literacy-outdoors-e1384718965350

Wedi’i gyflwyno gan bloc mewn cydweithrediad â’r Lab, daeth grŵp amrywiol rhyfeddol o 35 o bobl o feysydd celf, technoleg a’r awyr agored, at ei gilydd ar gyfer Wild Hack cyntaf Cymru ar ddydd Sadwrn 24 Hydref, 2015.

Sefydlwyd Wild Hack Haverfordwest i roi hwb i gysyniad bloc o Dechnoleg Wyllt (ysbrydoli pobl i fynd allan i’r awyr agored gan ddefnyddio celf a thechnoleg yn ddychmygus) ac i ddechrau dyfeisio offer a/neu adnoddau newydd i ysbrydoli pobl i ddefnyddio’r mannau gwyllt gwych sydd ar garreg drws Hwlffordd. Mae mwy o wybodaeth am y digwyddiad Wild Hack ar gael yma.

 

Symbylydd stori ar hap Hwlffordd

6-dsc_0276

Symbylydd stori ar hap Hwlffordd

Yn y cyfnod yn arwain at lansio’r prosiect ym mis Mai 2015, aeth yr artistiaid Davis & Jones, allan gyda chaffi symudol a phennau marcio, a gwahodd pobl yn Hwlffordd i sgwrsio am eu meddyliau a’u hatgofion o’r dref.

Stopiodd hen bobl a phobl ifanc, pobl ar eu gwyliau, pobl ar eu pen eu hunain, pobl mewn grwpiau, siopwyr, gweithwyr, sglefrwyr, teuluoedd, ffrindiau, pobl â chŵn, bysgwyr, pobl â chysylltiadau teuluol, pobl oedd yn byw yn y dref a phobl oedd yn byw gerllaw a chymryd amser i siarad.

Defnyddiwyd meddyliau, atgofion, teimladau, gobeithion ac ofnau yr oedd wedi’u rhannu mor hael, at ei gilydd i greu’r Symbylydd stori ar hap Hwlffordd, y gallwch ei weld yma.

Fflagiau Gwyliau

p1020465

Yn ystod mis Mawrth 2015, cynhaliodd A &E Adventures cwmni creadigol ysbrydoledig lleol, wedi’i leoli yn Nhalbenni ger Little Haven, cyfres o weithdai cynllunio gyda saith dosbarth Blwyddyn 5 a 6 o ysgolion cynradd Hwlffordd i ysbrydoli’r broses o greu cyfres o fflagiau gwyliau i lansio’r prosiect Confluence.

Mae pob fflag wedi ei seilio ar ddarn gwahanol o afon Cleddau wrth iddi lifo trwy’r dref sirol. Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar gael yma.

 

Lab Syniadau

ideaslab

Sefydlwyd y Lab Syniadau ddechrau 2016, mae’n darparu mainc arbrofi ar gyfer prosiectau adfywio a celfyddydol yn Hwlffordd. Trwy sesiynau galw heibio misol gwahoddir unigolion a sefydliadau i gyflwyno egin syniad i weld a allwn wneud iddo ddigwydd trwy weithio gyda’n gilydd.
Mae dros ddeg o fentrau ar raddfa fach wedi cael eu cefnogi hyd yma. Cewch wybod mwy yma.

 

Credyd Delweddau (o’r brig):
Janetka Platun, Sean Vicary, Chris Evans, Karen Ingham,
Chris Evans, bloc, Davis & Jones, Guy Norman, Heidi Baker.