Creu Cymunedau Cyfoes
Mae Cydlifiad yn un o saith o brosiectau ar draws Cymru sy’n cael ei gefnogi drwy Creu Cymunedau Cyfoes, menter strategol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Amcanion cyffredinol y fenter yw:
- Ymgorffori’r celfyddydau mewn ffordd ddidwyll ac ystyrlon mewn nifer bychan o brosiectau adfywio arloesol, uchelgeisiol a dychmygol.
- Archwilio ffyrdd newydd o weithio sy’n cynhyrchu cydweithio ar draws y sector, profi syniadau a phartneriaethau newydd ac ysbrydoli cymunedau i ail-ddychmygu eu hamgylchedd mewn ffordd greadigol ac ymrymusedig.
- Arbrofi gyda modelau newydd o adfywio a chydweithio trwy’r celfyddydau.
- Hyrwyddo ansawdd wrth gynllunio a gweithredu’r prosiectau.
Tra bod yna amryw o enghreifftiau adnabyddus o’r celfyddydau yn cyfrannu at adfywiad mewn dinasoedd, mae’r cyfraniad maent yn ei wneud mewn trefi yn llawer llai hysbys. Trwy raglen arbrofol o enw’r Lab, sydd wedi’i chysylltu â chyfres o gomisiynau artistiaid, mae’r prosiect Cydlifiad yn anelu i ddatblygu model ar gyfer adfywiad wedi’i arwain gan y celfyddydau mewn trefi bach yng Nghymru.
I ddilyn y stori hyd yma edrychwch ar y llinell amser sy’n cofnodi’r digwyddiadau yn nhrefn amser o gyhoeddi Creu Cymunedau Cyfoes hyd heddiw.
Mae fframwaith gwerthuso wedi’i ddatblygu gyda PRAXIS cwmni ymgynghori lleol wedi’i wreiddio yn y rhaglen Cydlifiad. Mae pedwar prif faes wedi cael eu hadnabod i fesur cynnydd tuag at y canlyniad a ddymunir sef datblygu model ar gyfer adfywiad wedi’i arwain gan y celfyddydau mewn trefi bach yng Nghymru:
- Newid canfyddiad pobl o Hwlffordd
- Y nifer o bobl sy’n ymgysylltu â’r rhaglen ac yn rhoi adborth cadarnhaol
- Cynyddu dealltwriaeth pobl o beth all y celfyddydau ei gynnig
- Cefnogaeth ac ymrwymiad y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau allweddol ar gyfer y celfyddydau ac adfywio.
Creu llinell sylfaen i fesur newid
Yn ystod y cyfnod peilot a thrwy gydol y flwyddyn gyntaf gwahoddwyd pobl i fynegi eu barn mewn amrywiaeth o ffyrdd er mwyn creu llinell sylfaen i fesur y newid dros amser. Dangosodd y llinell sylfaen, er bod yna lawer o bethau roedd pobl yn eu gwerthfawrogi am y dref, yn gyffredin â nifer o drefi eraill ar draws y Deyrnas Unedig, roedd pobl yn teimlo bod Hwlffordd wedi dioddef o ddirywiad hirdymor oherwydd:
- Newid mewn arferion siopa – mwy o bobl yn siopa ar-lein ac mewn siopau mawr ar gyrion y dref
- Trethi busnes uchel yn arwain at orddibyniaeth ar siopau elusen
- Diffyg buddsoddi, dealltwriaeth o a diddordeb yn y celfyddydau
- Penderfyniadau cynllunio gwael a diffyg gweledigaeth cydlynol ar gyfer y dyfodol
- Diffyg cyfleoedd i ymgysylltu yn gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu dadrymuso
- Newid yn yr economi wledig yn cael effaith negyddol ar y dref.
Wedi’i ysbrydoli gan lwyddiannau diweddar megis y parc sglefrio a Hwlffordd mae yna hefyd dystiolaeth bod pethau yn dechrau newid…
Mae Adroddiad Cam 1 Cydlifiad – crynodeb o’r prosiect peilot o 2014 yn hysbysu’r astudiaeth llinell sylfaen ynghyd ag amrywiaeth o ddeunyddiau ychwanegol a gasglwyd yn ystod blwyddyn 1, gellir gweld y rhain yma.
Newid canfyddiadau
Ers ei lansio ym mis Mai 2015, mae yna dros 1,500 o ymweliadau wedi bod i’r Lab a digwyddiadau cysylltiedig. Mae’r hyn mae pobl yn feddwl ac yn ei deimlo ynghylch lle a sut mae hynny’n cael ei gyfathrebu yn y cyfryngau torfol a’r cyfryngau cymdeithasol yn ganolog i newid canfyddiadau. Mae’r casgliad hwn o bostiadau yn cofnodi’r gweithgareddau ac yn dangos sut mae barn pobl am Hwlffordd yn newid o bosib.
Adborth ar y rhaglen
Yn y flwyddyn gyntaf cynhaliwyd dros 30 o wahanol weithgareddau a ble bynnag y bo’n bosib gwahoddwyd y cyfranogwyr i roi adborth, a oedd yn hynod gadarnhaol ac adeiladol. Gweler detholiad o’r gweithgareddau a’r adborth a gafwyd yma.
Beth all y celfyddydau ei gynnig
Mewn cymuned ddaearyddol anghysbell a gwledig ynysig, gall profiad pobl o ymarfer celfyddydol cyfoes sy’n cynnwys y gymdeithas fod yn gyfyngedig iawn. Nod blwyddyn gyntaf y rhaglen oedd amlygu ymarfer rhagorol o fewn y sir yn ogystal â darparu cyfleoedd i ymgysylltu ag artistiaid o ar draws y Deyrnas Unedig. Rhoddodd rhaglen o seminarau a sgyrsiau gan artistiaid hefyd lwyfan i artistiaid i rannu eu diddordebau a’u harferion gweithio amrywiol. Gweler detholiad o’r gwaith a’r adborth ynghylch sut mae hyn wedi newid dealltwriaeth pobl o’r hyn y gall y celfyddydau ei gynnig yma.
Cefnogaeth ar gyfer y celfyddydau ac adfywio
Mae llwyddiant hir dymor y rhaglen yn dibynnu ar gefnogaeth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol. Trwy gydol y flwyddyn gyntaf cynlluniwyd y digwyddiadau allweddol i ddod â’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau ac artistiaid a phobl sy’n ymwneud ag adfywio ynghyd i rannu ymarfer da ac i hwyluso trafod. Roedd technoleg gofod agored yn adnodd gwerthfawr i ddechrau trafodaeth o gwmpas rôl y celfyddydau mewn adfywio tra bod Lle i fod: Lleoedd Hanfodol II yn defnyddio dull seminar traddodiadol i ddenu cynulleidfa o’r meysydd Datblygu Cymunedol, Cynllunio Trefol, Celf, Adfywio a Phensaernïaeth.
Ymgysylltodd y gyfres o weithdai Map Mawr â phobl i fapio glan afon y dref i rannu eu syniadau, eu gobeithion a’u dyheadau i’r dref, gan ddarparu llwybr i’r broses gynllunio Meistr a gafodd ei wneud gan Nathaniel Lichfield a’i Bartneriaid ar ran Cyngor Sir Penfro.
Mae adroddiadau am y digwyddiadau oedd yn anelu i feithrin cefnogaeth i rôl y celfyddydau ac adfywio ar gael yma.
Adroddiad Blynyddol
Yn flynyddol, bydd cerdyn adrodd yn cael ei gynhyrchu i ddadansoddi beth sydd wedi cael ei wneud, pa mor dda y cafodd ei wneud ac oes yna rywun wedi elwa o ganlyniad? Bydd y cardiau adrodd ar gael i’w lawrlwytho ar y dudalen hon.
Gweld Blwyddyn 1 cerdyn yr adroddiad yma
Gweld Blwyddyn 2 cerdyn yr adroddiad yma
Gweld Blwyddyn 2 cerdyn yr adroddiad yma
Delwedd: Llun o’r afon gan Jack Wheatley