Bydd Swyddog Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Sir Penfro yn darparu cyngor a chefnogaeth i’r rhaglen drwy:
- roi gwybod am ymarfer rhagorol yn y celfyddydau
- arwain a chefnogi ymarfer gorau, comisiynu a rheoli prosiectau artistiaid, penseiri a sefydliadau celfyddydol gan sicrhau rhagoriaeth mewn celf a rhagoriaeth yn y broses o ymgysylltu â chymunedau
- bod yn gyswllt i wasanaethau eraill yn y cyngor e.e. Adfywio Cymunedol a Chynllunio
- lledaenu deilliannau a gwersi a ddysgwyd trwy Sir Benfro
Mae gan y Swyddog Datblygu’r Celfyddydau brofiad sylweddol o gynhyrchu rhaglenni celfyddydol o fewn yr awdurdod lleol a’r sectorau celfyddydol annibynnol. Mae hyn wedi cynnwys adnabod cyfleoedd a meithrin partneriaethau i ymgorffori creadigrwydd o fewn ymarfer adfywio trwy broses sy’n dod ag artistiaid a phobl ynghyd ac sy’n annog defnyddio’r dychymyg, creadigrwydd a dehongliad i’r eithaf.