Fel rhan o gynllun LLWYFAN, mae rhaglen o ffilmiau cyfoes gan artistiaid yn cael ei sgrinio yn yr hen Swyddfa Archifau.
I’w weld:
Dydd Iau 27 / Dydd Gwen 28 / Dydd Sad 29 Hyd
11am-5pm
Yr hen Swyddfa Archifau (drws nesaf i’r Castell ac Amgueddfa Tref Hwlffordd), Stryd y Castell, Hwlffordd, SA61 2EF
Ruth Jones Vigil 2009 / 04:32
Yn ymchwilio goleudy Pen Strwmbwl fel lle trothwy, wedi’i leoli rhwng y tir a’r môr, y nos a’r dydd a theyrnasoedd dynion ac anifeiliaid. Gan ddefnyddio patrymau golau rheoledig Strwmbwl fel canllaw ar gyfer golygu llun a sain, mae’r ffilm yn gwahodd myfyrdod tawel o’r rhythmau mewnol ac allanol sy’n dylanwadu ar ein profiadau, ein defodau a’n atgofion bob dydd…
Seán Vicary The Nose 2016 / 03:59
Mae gwraig oedrannus yn gorwedd mewn cartref gofal ar ddiwedd ei hoes, mae arogl blodau yn datgloi atgofion plentyndod anghofiedig am ennyd. Taith hunangofiannol drwy’r dirwedd farddonol wedi’i ysgogi gan y broses ffisiolegol o arogleuo, a grëwyd fel rhan o’r prosiect Celf a Gwyddoniaeth cydweithredol ‘Corff o Ganeuon.’ Gyda cherddoriaeth gan Sam Lee a Llywelyn ap Myrddin.
Seán Vicary Taxonomy 2015 / 02:34
Archwiliad dychmygol o fywyd a gwaith y naturiaethwr Fictoraidd Edmund Selous sy’n ystyried syniadau o gasglu data, gwyliadwriaeth a thrais diwydiannol. Mae bywyd Selous yn cael ei ddefnyddio fel trosiad ar gyfer ein safbwynt dynol-ganolog a’r pwyslais parhaol a roddir ar y mesuradwy uwchben y goddrychol wrth ddelio â’r byd naturiol. Cerddoriaeth a dylunio sain gan Richard Lewis.
Simon Whitehead Hwyrgan (by the late hour) 2007 / 09:00
Mae ffigwr yn cerdded trwy ddyffryn yn Sir Benfro rhwng dau olau, o ofod trefol sy’n duo i’r môr. Wedi’i gyfarwyddo a’i berfformio gan Simon Whitehead, camera a golygu gan Philip Cowan, sain gan Barnaby Oliver. Comisiwn gan Chapter, Caerdydd a rhan o brosiect ‘teithiau cerdded i oleuo’ Simon Whitehead 2004-2007, www.untitledstates.net
Jacob Whittaker Tying Tone Arms 2006 / 02:42
Golwg hiraethus ar offer hifi a ddaethpwyd o hyd iddynt a diffygiol, gan gwestiynu ein sentimentalrwydd a’n parch tuag gerddoriaeth a thechnoleg y gorffennol. Mae’r astudiaeth hon o ran hanfodol o’r broses gyfansoddi i Jacob yn mynd gyda chymysgedd o ddolenni a ddewiswyd ar hap o recordiau a ddewiswyd ar hap. A wnaed mewn ymateb i alwad am ffilmiau byrion ar y thema cyfyngiad ac a ddangoswyd yn gyntaf fel rhan o ddigwyddiad y Real Institute ‘Really Restrictive Shorts ‘, Llangollen, 2007.
Jacob Whittaker Shaky 2007 / 03:22
Yn edrych ar nam penodol ar hen hifi Alba a gafodd ei ddarganfod gan ffrind i Jacob rai blynyddoedd yn ôl.