Mae gwaith Seán Vicary yn delio gyda syniadau o dirwedd (mewnol ac allanol) a’n rhyngweithiad cynyddol wleidyddol â’r byd naturiol. Mae ei ddarnau o ddelweddau symudol wedi cael eu darlledu yn y Deyrnas Unedig a’u harddangos ledled y byd. Mae’n gweithio yn sensitif i’r safle, yn casglu gwrthrychau a darnau o falurion ac yn trin yr elfennau hyn mewn gofod rhithwir i greu casgliadau wedi’u hanimeiddio. Mae’r rhain yn gweithredu fel sbardunau ar gyfer y gwyliwr, gan awgrymu naratif ehangach neu broses gudd wrth waith y tu ôl i’r gweladwy.
Mae’r dyluniad sain ar gyfer y darn hwn gan Richard Lewis.
I’w weld:
Dydd Iau 27 / Dydd Gwen 28 / Dydd Sad 29 Hyd
11am–5pm
Yr hen Swyddfa Archifau (drws nesaf i’r Castell ac Amgueddfa Tref Hwlffordd)
Stryd y Castell Hwlffordd SA61 2EF
Am ragor o wybodaeth ar leoliadau ac artistiaid sy’n cymryd rhan, gweler y daflen LLWYFAN ar-lein isod, neu lawrlwythwch fel PDF yma