Mae Rhôd yn brosiect a redir gan artistiaid sy’n cymryd ei enw o felin ddŵr o’r unfed ganrif ar bymtheg. Mae’r pwyslais ar greu gweithiau celf sy’n benodol i safle – cerfluniaeth, gosodiad, perfformiad, celf sonig a fideo – ochr yn ochr â symposia, sgyrsiau a chyflwyniadau. Ymysg y prosiectau mae artistiaid Rhôd wedi cymryd rhan ynddynt mae Rhodio yn Biennale Fenis yn 2010, cyfnod preswyl yn Oriel y Tanerdy ym Machynlleth yn 2012 a gŵyl Made in Roath o 2013 i 2016.

Fel rhan o gynllun LLWYFAN, mae’r grŵp yn cymryd drosodd hysbysfyrddau yng nghanol y dref … mae Kathryn Campbell Dodd yn ymateb i hanes Hwlffordd trwy wrthrychau a delweddau sy’n gysylltiedig â bywyd y dref. Mae penny d jones yn creu helfa drysor, y gwobrau yw coed lleol a phrofiad o liw. Mae Roger Lougher yn ffŵl sy’n dawnsio sy’n disgrifio Hwlffordd drwy symudiadau. Allwch chi ddysgu triciau newydd i hen gi? Mae David Shepherd yn gwneud delweddau sy’n deillio o weithgareddau safle penodol mewn lleoliadau ar hyd glan yr afon. Gofynna Seán Vicary ‘A yw eich taith wir yn angenrheidiol?’ wrth i bryderon cyfoes ymdoddi yn nhirwedd Sir Benfro. Mae Liz Waterhouse yn eich gwahodd i ‘edrych drwy’r twll sbïo’. Bydd Jacob Whittaker cysylltu â diwylliant pop lleol: o DC i RCA, sut yn union ydych chi’n datrys problem fel Bruce Wayne?

I’w weld:
Dydd Iau 27 / Dydd Gwen 28 / Dydd Sad 29 Hyd
11am–5pm
Y llwybr gerllaw Argos
20 Cei Glan yr Afon
Hwlffordd SA61 2LJ

Am ragor o wybodaeth ar leoliadau ac artistiaid sy’n cymryd rhan, gweler y daflen LLWYFAN ar-lein isod, neu lawrlwythwch fel PDF yma