Ers i ni lansio ym mis Mai 2015 rydym wedi cael dros 1500 o ymweliadau i’r Lab a phresenoldeb yn ein digwyddiadau. Ond beth oedd gan bobl Hwlffordd, Sir Benfro a’r Deyrnas Unedig i’w ddweud yn y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol? Gosododd y cyfryngau lleol a chenedlaethol waelodlin heriol mewn print ac ar y radio:
Darparodd darn Sarah Moore ar BBC Radio Wales lwyfan ar gyfer ystod o safbwyntiau ac ymatebion yn dilyn gwobrwyo arian ar gyfer Confluence, drwy fenter strategol Gyngor Celfyddydau Cymru, Syniadau: Pobl: Lleoedd.
Credaf ei fod yn hollol ddibwrpas, lol hipïaidd.
– David Jones yn y Western Telegraph
Wrth i’r prosiect fagu momentwm mae ymateb y wasg leol a chenedlaethol wedi bod yn fwy cadarnhaol i’r digwyddiadau rydym wedi’u cynnal, gan rannu gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiadau sydd i ddod a hyrwyddo ein ceisiadau am gomisiynau artistiaid ledled y wlad:
Ni allaf gredu faint o bobl ddaeth. Nid wyf yn meddwl fy mod erioed wedi gweld rhywbeth mor hardd â hyn o’r blaen. Roedd fy mhlant wedi gwirioni eu bod yn cario llusernau roeddent wedi’u gwneud eu hunain. Yn bendant roedd hon yn noson wnawn ni ei chofio am byth.
– Sandy King yn y Western Telegraph
Gan fod momentwm y prosiect wedi tyfu, mae’r digwyddiadau a gynlluniwyd i feithrin cefnogaeth ar gyfer y celfyddydau ac adfywio, fel ein seminarau Lle Agored a Mannau Hanfodol wedi cael ymateb lawn mor gadarnhaol ar-lein, gyda phobl leol yn ymrwymo eu hunain i wneud newidiadau er gwell yn Hwlffordd.
Ar hyn o bryd mae gan ein grŵp Facebook 625 o aelodau (mae ein dilynwyr Twitter bellach yn 154), ac wrth i’r prosiect dyfu felly mae syniadau pobl ar gyfer y dref. Mae aelodau ein cymuned ar-lein yn rhannu eu hysbrydoliaeth ynglŷn â phrosiectau adfywio creadigol o drefi a dinasoedd ledled y byd yn rheolaidd, gan dynnu sylw at y potensial creadigol ar gyfer ein tref ni, ac archwilio dulliau gwahanol o wneud celf ac ymateb i’r hyn sydd o’n cwmpas.