Gwelodd yr ail sgwrs yn ein cyfres o Sgyrsiau Artistiaid ar Ebrill 27 drafodaeth fywiog gydag Emma Geliot, ymgynghorydd celfyddydau a golygydd cylchgrawn CCQ.

Gan siarad â chynulleidfa o arlunwyr ac ymarferwyr creadigol, trafododd Emma ystyron stiwdios arlunwyr yn y gorffennol, a’u potensial yn y dyfodol fel safleoedd ymgysylltu gyda’r gymuned leol ehangach, ynghyd â chynhyrchiad.

Wedi cael amser gwych yn y @harfatlab neithiwr, yn siarad am stiwdios arlunwyr gyda phobl effro. Mae Hwlffordd yn prysuro.

— Emma Geliot (@EmmaGeliot) Ebrill 28, 2016

Gan rannu enghreifftiau o gynlluniau ariannu eraill ar gyfer stiwdios ac ysgolion celfyddydau o amgylch y DU, cyffyrddodd Emma ar bwysigrwydd rhyngweithio cymdeithasol ar gyfer arlunwyr yng nghymunedau gwledig fel Sir Benfro, o ran datblygiad a datgeliad artistig personol.

Mae sgwrs Emma ar gael i’w chlywed isod:

Gwahoddodd Emma y gynulleidfa i gael trafodaeth fywiog am botensial arlunwyr yn Hwlffordd i ddatblygu eu cynllun stiwdio eu hunain, gyda phobl yn rhannu eu profiadau eu hunain o weithio mewn, ac ymweld â lle stiwdio a rennir. Fel y dywed: ‘Mae Hwlffordd yn prysuro’!

Bob amser y dof i’r Lab rwy’n teimlo’n fwy cyfranogol, fy mod wedi dysgu rhywbeth ac wedi mwynhau fy hun yn fawr.

— Cerdyn adborth (27/4/16)

Pleserus – Hoffwn gyfranogi petawn â mwy o amser.

— Helen Bowen (27/4/16)

Lluniau: Tangwen Roberts