Sut allwn ni weithio gyda’n gilydd i ddatgloi potensial adeiladau gwag ac adeiladau mewn perygl?
Pa ran all mentrau a arweinir gan y gymuned a mentrau llawr gwlad ei chwarae i adfywio canol ein trefi?
Beth yw manteision gwahanol ddulliau o weithio gyda lleoedd segur i berchnogion?

Ar 7 Medi 2016, cynhaliodd The Lab Stalled Spaces, sef cyfarfod cyntaf Empty Property Owners Club Haverfordwest (EPOCH). Daeth siaradwyr gwadd a 30 aelod o’r cyhoedd at ei gilydd i archwilio gwahanol ddulliau o ddatgloi potensial adeiladau gwag.

Tyfodd y digwyddiad o ddarn o waith a wnaed gan Gitti Coats, ymchwilydd llawrydd a ddechreuodd brosiect EPOCH drwy’r Lab Syniadau ym mis Chwefror 2016, gyda’i chynnig i ddatblygu cofrestr o eiddo gwag yn Hwlffordd.

Hefyd yn siarad oedd curadur Oriel a Stiwdios Elysium yn Abertawe, Jonathan Powell, Swyddog Animeiddio ac Effaith Arwain Sir Benfro, Cris Tomos a Martin White, y Pennaeth Adfywio yng Nghyngor Sir Penfro.

Wrth agor y drafodaeth, disgrifiodd Gitti Coats ei syniad ar gyfer EPOCH fel:

Clwb aelodaeth sy’n cysylltu perchnogion adeiladau gwag, gyda ffyrdd o wneud eu hadeiladau yn rhan o ganol tref sy’n gwella […] Dod ag adeiladau yn ôl i ddefnydd cyhoeddus, cynyddu nifer yr ymwelwyr, a chodi gwerth eiddo gwag i’w perchnogion.

Llwythwch i lawr gyflwyniad Gitti ar y cynnydd a wnaeth gydag EPOCH ynghyd â’r argymhellion arfaethedig ar gyfer ‘model adfywio o sylwedd’, yma.

Rhannodd Jonathan Powell ei brofiadau o ddefnydd yn y cyfamser o eiddo gwag Stryd Fawr Abertawe, a oedd yn ganolog i stori Elysium: ‘menter ddielw, gymdeithasol, dan arweiniad artist sy’n cynnwys 60+ o leoedd stiwdio ac oriel gelf gyfoes dros 3 lleoliad yng Nghanol Dinas Abertawe.’

Dechreuodd fel oriel Exposure yn 2003, a bydd Elysium yn dathlu ei ddengmlwyddiant yn 2017, ac yn yr amser hwnnw mae wedi meddiannu sawl lle gwag, o buteindy diddefnydd i dŷ Meddyg o Oes Fictoria (y bu sôn ei fod o dan amheuaeth yn llofruddiaethau Jack the Ripper).

Mae’r oriel bellach yn rhedeg 35 o leoedd stiwdio, oriel / mainc arbrofi, mannau ymchwil a llyfrgell gymunedol ynghyd â rhaglenni artistiaid preswyl ar lawr uchaf hen adeilad Iceland ar Stryd Fawr Abertawe.

Wrth rannu’r gwersi mae wedi’u dysgu o’r defnydd yn y cyfamser a’r perthnasau mae Elysium wedi’u datblygu gyda landlordiaid preifat, tynnodd Jonathan sylw at yr angen i roi cymhelliad i landlordiaid agor eu lleoedd ar gyfer mentrau a arweinir gan y gymuned.

Llwythwch i lawr gyflwyniad Jonathan sy’n dangos y gwahanol ffyrdd y bu Elysium yn gweithio gyda lleoedd segur yma, a dilynwch stori Elysium a’r gwahanol safleoedd a mannau mae wedi’u meddiannu yma.

Ond lle i ddechrau proses debyg o berchnogaeth gymunedol mewn ardaloedd mwy gwledig, ac ar raddfa lai? Drwy ei brofiad o weithio gyda chymunedau gwledig amrywiol yng Nghymru wledig, dangosodd Cris Tomos sut y gall y buddion ariannol a chymdeithasol cymunedol a gynhyrchir gan asedau sy’n eiddo i’r gymuned ddod yn gatalydd ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.

Amlinellodd wahanol ffyrdd o annog cymunedau i weithredu mewn adfywiad a chodi’r arian i gynnal lle sy’n eiddo i’r gymuned. Gan ddefnyddio astudiaethau achos, eglurodd Cris y gwahanol ffyrdd o ariannu perchnogaeth gymunedol gynaliadwy o leoedd, gan gynnwys: Cyllido torfol, cynigion cyfranddaliadau cydweithredol lleol a benthyciadau cyfoedion-i-gyfoedion yn y gymuned ar gyfer y cyllid cychwynnol, a phwysigrwydd cynhyrchu incwm parhaus.

Llwythwch i lawr gyflwyniad Cris yma.

Ochr yn ochr ag arwyddocâd mobileiddio cymunedol o ran caffael a defnyddio lleoedd segur, amlinellodd Martin White rôl yr awdurdod lleol o ran galluogi adfywiad drwy gefnogi bidiau ariannol trwy dimau trefi, cynllunio gweithredu a phrosesau uwch gynllunio, a gellir ei lwytho i lawr yma.

Yn ystod y trafodaethau dilynol, roedd y gynulleidfa yn awyddus i ddefnyddio profiadau’r siaradwyr i gyd a datblygu’r syniadau a rannwyd i archwilio’r posibilrwydd o gymhwyso modelau tebyg o berchnogaeth gymunedol ar adeiladau yn Hwlffordd.

‘Roeddwn yn wir wedi rhedeg ar ôl Jonathan drwy’r drws i geisio trefnu cyfarfod’

– Arthur Brooker

Gyda chymaint o frwdfrydedd, nid oes syndod bod pob un a holwyd ar y noson wedi dweud eu bod yn bositif am ddyfodol Hwlffordd.