Ers lansio fis Chwefror 2016, mae Ideas Lab wedi bod yn gweithio gyda phrosiectau ar raddfa fach i brofi syniadau ar gyfer y celfyddydau ac adfywiad yn Hwlffordd.
Gyda chychwyn da gyda Make 4 – cyfres o weithdai celf addas i deuluoedd ar ddydd Sadwrn ym mis Mawrth, dan arweiniad yr arlunydd Louise Bird – mae’r Lab wedi gweithio gyda 10 prosiect bach, sydd ar gyfnodau amrywiol o ddatblygiad.
Bydd gŵyl Hwlffordd yn croesawu nifer o’r prosiectau hyn. Maent wedi’u cynllunio i newid canfyddiadau am y dref sirol, ymgysylltu pobl yn y celfyddydau a chynyddu dealltwriaeth o beth all celf fod. Bydd Breaking out of the Gallery yn arddangos celf ar strydoedd Hwlffordd. Yn y cyfamser, bydd arlunwyr lleol o stiwdios pop-up Hwlffordd yn byw mewn tair Artshed sydd wedi’u lleoli ar hyd yr afon drwy gydol yr ŵyl.
Mae EPOCH (Empty Property Owners Club Haverfordwest) wedi creu cofrestr o eiddo gwag a’u perchnogion i baratoi ar gyfer digwyddiad a gynllunnir fis Medi. Bydd yn edrych ar ffyrdd o ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.
Mae prosiectau eraill sydd ar y gweill yn cynnwys: Sweet sixteen – gwaith celf yn ymgysylltu â, ac yn dathlu pawb fydd yn un ar bymtheg oed yn 2016; Parciau Poced – datblygu a chynnal cyfres o barciau poced; Seren – Gweithdai i greu prototeip cwch fforddiadwy a ellid ei hwylio ar Afon Cleddau ac argraffu Calendr i godi arian ar gyfer Haverfordwest Yarn Bombers.