Roedd yr ail seminar Lleoedd Hanfodol fis Mawrth 2016 yn gyfle gwych i drigolion Hwlffordd a’r ardal oddi amgylch i edrych ar bosibiliadau creadigol ar gyfer adfywio Hwlffordd, a dechrau holi cwestiynau am sut y gall cymunedau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol wella Hwlffordd i’r bobl sy’n byw yn ac yn ymweld â’r dref.
Rhannodd y siaradwyr gwadd Julian Dobson, Yr Athro Paul Haywood a Rosie Hervey eu profiadau a’u hadlewyrchiadau ar werth y celfyddydau mewn adfywiad mewn cyfres o gyflwyniadau. Mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho fel PDFs drwy glicio’r dolenni isod:
Julian Dobson ar orffennol, presennol a dyfodol canol trefi.
Paul Haywood ar y cysyniad heidio creadigol fel ffordd o weithredaeth celfyddydau cymunedol.
Rosie Hervey ar ei gwaith gyda’r practis pensaernïol arobryn, Studio Weave.
Yn dilyn y cyflwyniadau, ymunodd cyfranogwyr o ledled Cymru â phobl leol gyda diddordeb yn y celfyddydau ac adfywiad i weithio mewn grwpiau bach yn edrych ar y cwestiynau cywir yr ydym eisiau eu holi, ac i bwy ddylem eu gofyn cyn y gall newid ddigwydd.
Roedd asedau dinesig Hwlffordd yn rhan allweddol o’r trafodaethau. Roedd cwestiynau ynghylch pwy sydd berchen adeiladau a lleoedd trawiadol y dref yn faen tramgwydd i lawer, ynghyd â phwysigrwydd balchder yn beth all Hwlffordd ei chynnig.
Gan awgrymu beth a ellid ei wneud i wella Hwlffordd, roedd llawer o bobl yn awyddus i gynyddu’r synnwyr o berchnogaeth gymunedol a balchder dinesig yn y dref:
Edrych ar y dref a lleoedd cymdeithasol a gweld os oes unrhyw adeiladau neu barciau a ellid eu ‘mabwysiadu’ gan grwpiau, yn hen ac ifanc, a gellid defnyddio eu syniadau a’u sgiliau nhw i’w gwella nhw neu i ddod â hwy yn ôl i ddefnydd.
Mwy o ymdeimlad o berchnogaeth/balchder dinesig.
Ffocws ar berchnogaeth ac ailddefnydd.
Teimlai eraill fod y cyflwyniadau yn tynnu sylw at yr angen am gydweithrediad a rhannu sgiliau rhwng y cymunedau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol:
Roedd yn dda iawn gweld arian celfyddydau yn dod â gwneuthurwyr penderfyniadau at ei gilydd heb ddiddordeb ffurfiol neu flaenorol yn y celfyddydau.
Gwleidyddion/uwch gynghorwyr sy’n hyrwyddwyr y celfyddydau, sy’n gweld y weledigaeth a phwy all ysbrydoli eu cydweithwyr.
Gweithio â’r cyngor/cynllunwyr i ganolbwyntio ar gymuned yn hytrach nag enillion a thlodi datblygwyr yr ardal. Meddwl am amgylchedd y dyfodol gan gynnwys llygredd.
Yn gyffredinol, y cyrff cyhoeddus yw’r cyrff i arwain ar yr amgylchedd ffisegol, tra mae cyrff cymunedol yn arwain ar ‘bobl’ a gweithgareddau. Mae’n gweithio orau pan mae’r ddwy ochr yn gweithio a’i gilydd.
Gyda llawer yn teimlo’n frwd am ddyfodol Hwlffordd, roedd brwdfrydedd amlwg am newid gan nifer trawiadol.
Llun: The Indelkith, prosiect gan Studio Weave o gyflwyniad Rosie Hervey