Cyhoeddodd Cyngor Sir Penfro yn ddiweddar eu gweledigaeth am ddyfodol Hwlffordd. Mae ein hymateb, a ellir ei lawrlwytho yma, yn croesawu cydnabyddiaeth y Cyngor o’r rôl bwysig y gall y celfyddydau ei chwarae mewn adfywiad. Ond aiff ymhellach wrth holi cwestiynau am y ffordd y gwireddir y cynllun hwn:

Croesawn y cynigion uwchgynllun fel cam arwyddocaol ymlaen tuag at beth all fod yn weledigaeth a rennir i Hwlffordd y gall y gymuned gyfranogi iddi, a theimlo eu bod yn berchen arni. Credwn hefyd fod hon yn broses barhaus, ac mai dim ond megis dechrau ar gynllun hirdymor i’w weithredu dros y ddegawd nesaf yw’r ymarfer uwchgynllun.

Gwelwn hyn fel cyfle gwych i Hwlffordd, a’r bobl sy’n byw a gweithio yma, i ddweud eu dweud am siapio ei dyfodol. Ond sut awn yno?

  • Sut allwn ni ddatblygu’r weledigaeth yn ymarferol?
  • Beth yw’r pethau allweddol i sicrhau adfywiad llwyddiannus?
  • Pwy ddylai fod yn gyfrifol?

Teimlwn mai allwedd hanfodol yw ymgysylltiad cymunedol parhaus, a thryloywder sy’n cynnwys pobl yn wirioneddol mewn newid positif:

Gyda chymaint o newid mewn blynyddoedd diweddar, mae’n rhaid i ni nawr drin y cwestiynau sylfaenol o i bwy ac i beth mae canol trefi? Gall gofyn y fath gwestiynau i ni ein hunain yn eu tro roi cyfle i ailddyfeisio canol ein tref.

Sut ydym yn mynd o “uwchgynllun” i “gynllun y bobl”?

Mae’n arbrawf parhaus…