Wedi’u harwain gan bartneriaid Cydlifiad, iDeA Architects, cynhaliwyd y gweithdai Map Mawr dros gyfnod o wyth wythnos rhwng 16 Awst a 7 Hydref 2015. Roedd y gyfres o weithdai yn adeiladu ar beilot cynharach y Map Mawr, a gafodd ei gynnal yn lansiad y Lab yn ystod y Sulgwyn.

Rhoddodd y Map Mawr y cyfle i bobl Hwlffordd gyfrannu at fapio arbrofol glan afon y dref a rhannu eu syniadau, eu gobeithion a’u dyheadau ar gyfer y dref.

Gwahoddwyd pobl gyffredin sy’n byw, yn gweithio, yn dysgu, yn ymweld â, ac yn chware yn Hwlffordd i gamu i mewn i’r bwlch sydd fel arfer yn cael ei gadw ar gyfer cynllunwyr ac i gyfrannu mewn ffordd chwareus a dychmygol at y broses gynllunio.

Gweithiodd pump allan o’r saith gweithdy gyda grwpiau a dargedwyd, roedd y ddau weithdy arall yn agored i gymuned y dref fel gweithdai ‘galw heibio’, gan gynnwys y sesiwn ‘Yn ôl i’r Dyfodol’ a gynhaliwyd gan Transition Haverfordwest un o bartneriaid Cydlifiad. Cyfrannodd 133 o bobl i gyd.

Canolbwyntiodd y gweithdai ar lan afon Hwlffordd ac ardaloedd amgylchynol o ganol y dref, gan gerdded a chofnodi arsylwadau ar hyd llwybr wedi’i gynllunio. Yna cafodd y cyfranogwyr eu hannog i ‘fapio’ eu myfyrdodau a’u syniadau ar gorddalennau dargopïo o’r map.

Roedd y canlyniadau yn annisgwyl ac allan o ‘lif yr ymwybod’ wedi’u hysgogi gan y broses fapio cafodd rhai syniadau allweddol eu hadnabod ar gyfer ail-ddychmygu ac adfywio canol y dref. Roedd hyn yn cynnwys ‘CYNLLUN Y BOBL’ a fyddai’n arddangos y weledigaeth ar y cyd.

Cafodd y broses a’r darganfyddiadau a oedd yn ganlyniad o’r gweithdai eu disgrifio yn adroddiad y Map Mawr a gafodd ei gyflwyno i Nathaniel Lichfield a’i Bartneriaid, sef yr ymgynghorwyr cynllunio trefol a oedd yn paratoi uwchgynllun ar gyfer y dref i’w gyflwyno i Gyngor Sir Penfro. Gallwch lawrlwytho’r cynllun yma: the-big-map-report.pdf

Newid canfyddiadau o Hwlffordd

‘Uwchlaw popeth arall, os nad ydych yn rhoi gorau i’r dull o gynllunio trefol sy’n canolbwyntio ar briffyrdd a pheirianneg, mae Hwlffordd yn sicr o fethu.’

‘Mwy o barciau/mannau gwyrdd agored lle gall pobl eistedd a breuddwydio, yn enwedig wrth ymyl yr afon’

‘Mae Hwlffordd ar hyn o bryd yn llwyddo i ddenu pobl a chadw pobl i ffwrdd. Mae yna hanes teulu yma. Buaswn wrth fy modd yn gweld mwy o ardaloedd i ddenu bywyd gwyllt.’

‘Angen calon gymunedol, fwy amlbwrpas, tebyg i Bloomfield = yr Hen Garchar?’

‘Hoffi’r syniad o Hostel Celf yn yr adeilad wrth droed y grisiau sy’n arwain at y Castell, gyda Bar Clwb Celf drws nesaf’

Adborth ar y rhaglen

‘Wir wedi mwynhau’r cyfle i drafod materion yng nghanol y dref..roedd y cyfnewid barn yn ysbrydoledig. Roedd yr holl beth yn dod yn fyw wrth ddefnyddio’r Map Mawr – llawer gwell na chynnal cyfarfod.’

‘Roedd y cyflwyniadau yn llawn gwybodaeth a hefyd yn weledigaethol ac yn eithaf heriol’

‘Wir wedi mwynhau’r gweithdy – diddorol iawn a llawr o wybodaeth i’w ystyried… awn i ffwrdd i feddwl am ffyrdd newydd i ymgysylltu â Hwlffordd.’