Ar Dachwedd 18 a 19 2015, ymunodd y ffotograffydd ac academydd John Kippin â ni yn Y Lab i roi sgwrs gyhoeddus am ei waith ei hun a chyfranogi i’n digwyddiad Lle Agored. Trafodai sut allai’r celfyddydau gynorthwyo i adfywio Hwlffordd.
Ar noson y 18fed trafododd John, sy’n ymwelydd cyson â Sir Benfro, enghreifftiau o’i waith ei hun dros y 30 mlynedd diwethaf. Tynnodd sylw at sut all technegau creadigol a defnydd o destun herio cysyniadau cryfaf tirweddau a lle.
Drwy gyflwyniad sy’n ysgogi’r meddwl, rwy’n hoffi’r paralelau gyda chyfadeilad campus diwydiannol Sir Benfro a delfryd gwledig a gwirioneddau cudd tirwedd.
Mwynheais hyn. Dangosai dirwedd mewn ‘ffordd wahanol’, gyda themâu sylfaenol. Mae llongau a dŵr yn berthnasol i Hwlffordd – posibilrwydd am drem yn ôl?
Mae’n wych cael arlunydd sefydledig a thalentog i ddod i siarad yn Hwlffordd.
Y diwrnod canlynol agorodd John ein digwyddiad agored sef Gwneud Cysylltiadau. Gwnaeth gyflwyniad byr ar Gwerth ymarfer celfyddydau a’i werth mewn adfywio lleoedd a chymunedau. Drwy gydol y dydd cynorthwyodd trigolion Hwlffordd a’r dalgylch i siapio cynlluniau Confluence ar gyfer y 2 flynedd nesaf. Rhannont eu meddyliau hwy ar sut all y celfyddydau adfywio’r dref.
Dan arweiniad Deri Morgan, treuliodd y grŵp y diwrnod yn cyflwyno eu hymholiadau ac awgrymiadau eu hunain fel ateb i’r cwestiwn: “Sut all y Celfyddydau adfywio ein tref Sirol?’
Roedd ystod mawr i’r ymatebion: o arian lleol i ŵyl celfyddydau a choleg celfyddydau i ddathlu a meithrin talent lleol, i osodiadau bach o amgylch y dref a defnyddio adeiladau hanesyddol gwag (fel Tŷ Foley, Neuadd y Sir a’r Hen Swyddfa Bost) fel gweithdy a lleoedd arddangos.
Roedd nifer y trigolion lleol, arlunwyr, perchnogion busnes, aelodau cyngor ac arweinwyr grŵp cymunedol yn brawf calonogol o gymuned sydd eisiau eu tref ddychwelyd i’r dref farchnad fywiog yr oedd unwaith.
Gyda chymaint o syniadau gwych o amgylch Y Lab, mae’n amlwg faint o bobl sydd eisiau gweld newid positif yn y dref. Roedd llawer yn awyddus i ddilyn y syniadau a gyflwynwyd. Gallwch eu gweld yma.
Hwn oedd y cam cyntaf yn unig. Gyda 18 mis ar ôl o’r rhaglen Confluence, mae digon o botensial i’r syniadau gwych hyn gael eu gwireddu. Mae adroddiad llawn o’r digwyddiad hefyd ar gael i’w lawrlwytho yma.
Llun: (CUDD), PARC CENEDLAETHOL, NORTHUMBERLAND, 1991, O’r portffolio Hiraeth am y dyfodol, Trem yn ôl ar ei ben ei hun o waith John Kippin yn Oriel y Ffotograffydd, Llundain