O 25 Chwefror 2016, arddangosodd y Lab y canlyniadau (a gafwyd hyd yno) o’r prosiect Map Mawr a oedd partneriaid Cydlifiad, iDeA Architects wedi bod yn eu rhedeg rhwng mis Awst a Hydref y llynedd.
Roedd arddangosfa’r Map Mawr yn crynhoi darganfyddiadau’r saith gweithdy, a wnaeth ymgynghori â rhanddeiliaid lleol gan gynnwys preswylwyr, masnachwyr a chynllunwyr tref, mewn proses wedi’i harwain gan y celfyddydau i ail-ddychmygu ac ail-asesu’r dref.
Yn cael eu harddangos oedd yr atgynhyrchiadau digidol o’r mapiau tref amgen a gafodd eu creu, yn archwilio’r themâu allweddol a oedd wedi ymddangos ar gyfer ail-ddychmygu ac adfywio canol y dref pan ydych yn dod i un o ddigwyddiad rhaglen y Gwanwyn yn y Lab (gan gynnwys sesiynau galw heibio’r Lab Syniadau a’r ymgynghoriad Newid Lleoedd).