Roedd y gweithdy galw heibio a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 3 Hydref 2015 yn y LAB yn boblogaidd iawn a bu i bob oedran ei fwynhau. Gyda hyfforddiant gan y gwneuthurwr print a sylfaenydd Swansea Print Workshop, Alan Williams, gwnaeth y rhai oedd yn cymryd rhan brintiau colagraff lliwgar wedi’u hysbrydoli gan Hwlffordd â’i berthynas gyda’r afon. Mae printio colograff yn dechneg gwneud printiau hygyrch iawn sy’n seiliedig ar dechneg collage gyda’r pwyslais ar weadau as siapiau amlwg. Roedd y gweithdy hwn yn rhad ac am ddim ac nid oedd angen unrhyw brofiad blaenorol. Roedd yr holl offer a deunyddiau’n cael eu darparu.
Roedd bob un o’r un ar bymtheg o sylwadau adborth a dderbyniwyd yn gadarnhaol iawn, yn disgrifio sut roedden nhw wedi’u synnu ar yr ochr orau gyda’r delweddau a gynhyrchwyd o’r broses arbrofol hon, hyd yn oed os nad oeddent yn eu hystyried eu hunain yn ‘greadigol’ neu’n dda mewn celf. Gofynnodd nifer o’r rhai a gymrodd ran pryd fyddai’r gweithdy’n cael ei ailadrodd a dweud y byddent yn ei fynychu pe byddai’n ddigwyddiad rheolaidd.
Profiad pleserus iawn, gobeithio y bydd mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol.
Mwynheais y gweithdy hwn yn fawr…nid oeddwn i’n meddwl fy mod yn dda mewn celf ond nawr dwi’n dechrau ail feddwl. Roedd y bobl yn ei redeg yn wych ac yn llawer o gymorth. Jan x
Gweithdy hygyrch a phleserus. Dylai rhywbeth fod yma yn rheolaidd. Diolch
Gweler detholiad o brintiau yma:
Delwedd: Gweithdy colograff gydag Alan Williams