Cynhaliwyd gweithdy print torlun pren i artistiaid ddydd Gwener 2 Hydref 2015 10.30am – 4pm yn y Lab ar gyfer 10 artist gweithredol gyda hyfforddiant gan Alan Williams, gwneuthurwr print sylfaenydd Swansea Print Workshop. Gwahoddwyd cyfranogwyr i wneud torlun pren amlwg mawr wedi’i ysbrydoli gan Hwlffordd a’i berthynas gyda’r afon.
Bu i’r gweithdy roi cyfle i artistiaid lleol ddod ynghyd, rhannu syniadau a dysgu crefft newydd.
Diwrnod gwych dan arweiniad arbennig. Byddwn wrth fy modd yn dod ynghyd gydag artistiaid yn fisol yn Y Lab gan greu Cleaddau – darnau ysbrydoledig yn ein ffyrdd ein hunain. – Lloyd Roberts
Y peth mwyaf arbennig am heddiw oedd cael cyfarfod a gweithio ochr yn ochr ag artistiaid eraill. – Heidi Baker
Wedi mwynhau rhoi tro ar brintio pren, edrych ymlaen at arbrofi gartref. – Helen Bowen
Derbyniodd y delweddau a gynhyrchwyd gan Fran Evans, Heidi Baker, Helen Bowen, Jenny Guard, Dawn Tootes, Jo Owen, Lloyd Roberts a Hew Fuller adborth gwych ar-lein a gellir gweld y sioe sleidiau isod.
Delwedd: Kevin Thompson