Sgwrs Wild Hack a gynhaliwyd ddydd Mercher 14 Hydref 2015, 7.30pm. Daeth Kathryn Lambert, Cynhyrchydd Creadigol sydd wedi’i lleoli yn Sir Benfro i sgwrsio am ei gwaith bloc, y Rhwydwaith Technoleg Creadigol ar gyfer Cymru, a’r cysyniad o Dechnoleg Wyllt. Dangosodd Kathryn enghreifftiau i ni o brosiectau sy’n ysbrydoli pobl i fynd i’r awyr agored gan ddefnyddio celf a thechnoleg yn ddychmygus a rhoi gwybod i ni sut i faeddu ein dwylo gyda thechnoleg yn sesiwn gyntaf erioed Wild Hack yn Hwlffordd.