Dros ychydig ddyddiau ym mis Mehefin, aeth yr artistiaid Davis & Jones at nifer o bobl o amgylch Hwlffordd, gyda chaffi cludadwy a phennau marcio, a’u gwahodd i siarad am eu meddyliau a’u hatgofion o’r dref.
Bu i’r hen a’r ifanc, rhai oedd ar eu gwyliau, pobl ar eu pen eu hunain, pobl mewn grwpiau, siopwyr, gweithwyr, sglefrwyr, teuluoedd, ffrindiau, pobl gyda chŵn, cerddorion pen stryd, pobl gyda chlymau teulu, pobl sy’n byw yn y dref a phobl sy’n byw’n gyfagos i gyd yr amser i stopio a sgwrsio.
Cafodd y meddyliau, yr atgofion, y teimladau, y gobeithion a’r ofnau a rannodd pobl yn hael eu hysgrifennu ar eu dillad gan Davis & Jones.
Gan ddefnyddio’r Cynhyrchydd Stori ar Hap, syniad a ddyfeisiwyd gyda phobl ifanc yn Wiltshire, gwnaed y straeon yn ddienw a’u grwpio i gategorïau ‘Pwy Ydw I? Beth Ydw i’n ei Wneud?, Y Lle Hwn a Syniadau.
Wedi’i ail-threfnu yma mae Cynhyrchydd Stori ar Hap Hwlffordd yn creu 11,007,360 o straeon newydd posibl; portread od a dadlennol o’r dref hon.
Ni fyddwch chi’n gweld yr un stori ddwywaith!
Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd ac a gymrodd yr amser i sgwrsio.
Comisiynwyd Cynhyrchydd Stori ar Hap Hwlffordd gan Confluence fel rhan o gyfres o weithgareddau a gynhaliwyd dros wythnos yn y Lab yn gwahodd pobl i edrych ar Hwlffordd yn wahanol.
Edrychwch ar ffilm fer gan Sharron Harris yn dangos sut y crëwyd y gwaith celf.
The Lab: Davis & Jones gan curious ostrich on Vimeo.
Gwaith Celf: Davis & Jones
Dylunio a Meddalwedd: City Edition Studio
Cydweithio cyd-destun: Grŵp Ymgynghorol Ieuenctid Trowbridge