the-lab-launch-05

Roedd ymwelwyr â’r asiantaeth deithio flaenorol yn Ocky Whites wedi’u synnu ac yn hynod falch fod y siop wedi’i gweddnewid yn ofod arddangos gwib a gweithdy celf a elwir yn Lab. Yr wythnos ddiweddaf roedd Lab yn lansio menter gelf ac adfywio 3 blynedd.

Dywedodd Pip Lewis o spacetocreate, “Cafwyd wythnos lawn o bethau annisgwyl. Ni allai pobl gredu eu bod yn Ocky Whites. Cafodd y swyddfa deithio ei gweddnewid yn ofod amlbwrpas i gynnal gweithdai, arddangosfeydd, sgyrsiau a chyfarfodydd. Roedd hi’n wych gweld pobl yn rhoi cynnig ar wneud pethau newydd a chlywed eu sylwadau ynglŷn â’r modd y mae’r dref wedi newid a’u syniadau ar gyfer y dyfodol.”

Ddydd Llun Gŵyl Banc y Sulgwyn, yn ystod ei hymrwymiad swyddogol cyntaf, daeth Sue Murray, maer newydd y dref gyda’i chymar i lansio’r fenter yn swyddogol. Pa bryd bynnag y cynhaliwyd digwyddiadau, chwifiwyd cyfres o faneri pasiantaidd i ddathlu.

p1020465

Dywedodd Sue, “dyma ddechrau prosiect tair blynedd gynhyrfus iawn ac mae’n wych cael gwneud rhywbeth gwahanol yn y dref.”

O Ddarlunio ar yr afon a’r Gweithdy Adeiladwaith Freshwest anhygoel i Fy nhref fach i – taith dywys gyda Gordon Gibson ddydd Gwener. Roedd rhywbeth at ddant pawb yn y rhaglen oedd yn para wythnos.

Yn y Lab ddydd Iau, cynhaliwyd gweithgaredd y Map Mawr rhwng 10 am a 10 pm a Llunio eich smotyn yn y prynhawn. Bu tîm o fyfyrwyr graffeg o Goleg Sir Benfro yn cydweithio dan yr enw Co Lab. Gyda’r hwyr cafwyd cyfle i ddangos ffotograff ac adrodd stori am le arbennig mewn munud yn unig. Daeth diwrnod prysur i ben gyda dangosiad o’r Symbylydd stori ar hap Hwlffordd, gwaith celf tafluniad wedi ei greu gan Davis & Jones o’r amryw sgyrsiau a gafwyd yng nghyffiniau glannau’r afon yn Hwlffordd yn ystod y dyddiau’n arwain at yr wythnos lansiad.

Dywedodd Guy Norman o spacetocreate, un o 5 partner y fenter, “roeddem wrth ein bodd gyda nifer y bobl a ddaeth yn ystod yr wythnos. Mae’r Lab mewn lleoliad perffaith. Ymunodd cannoedd o bobl leol ac ymwelwyr o bob oed yn yr hwyl a buont yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol y tu mewn a thu allan i’r Lab.”

Yn eu plith yr oedd Helen Murray, Prif Swyddog Planed a neilltuodd amser o’i gwyliau ddydd Mercher i gymryd rhan yng ngweithdy adeiladwaith Freshwest. Yn ystod digwyddiad y Map Mawr ddydd Iau, galwodd Dr Steven Jones, Cyfarwyddwr Datblygu heibio a chafwyd trafodaeth fywiog gyda’r Cynllunydd Trefol Rhyngwladol Gordon Gibson.

Dywedodd Chris Evans o iDeA Architects, sefydliad partner arall, “mae hyn yn well na’r hyn a wnaethom ei ddychmygu. Mae Lab yn ymwneud â chreu gofod i bobl gyfarfod y tu allan i adeileddau ffurfiol a’r sianelau arferol. ”

Dywedodd Rhowan Alleyne, Swyddog Cefnogi Prosiect gyda sefydliad Planed sy’n arwain y prosiect, “sicrhawyd llwyddiant yr wythnos lansiad yn rhannol oherwydd ymrwymiad gwirfoddol gwych tîm o bobl ifanc lleol dalentog, llawer ohonynt yn raddedigion diweddar o rai o sefydliadau celf a chynllunio mwyaf blaenllaw’r DU”.

Dywedodd Roland Keevill, Rheolwr Canolfan Siopa’r Riverside a chynrychiolydd tîm Siambr Fasnach 4C y dref, “roedd yr awyrgylch yn wych. Y Lab yw’r union beth yr ydym ei angen i wella cyfathrebu rhwng gwahanol sefydliadau. Gallwn fanteisio ar y cyfle hwn i grynhoi profiadau a syniadau pobl er mwyn rhoi sail i weledigaeth gadarnhaol ar gyfer y dref.”

Edrychwch ar ffilm fer Sharron Harris sy’n cofnodi’r lansiad.

LAB Launch from curious ostrich on Vimeo.

Lansiad LAB o curious ostrich  ar Vimeo.