Mae Serena Korda, yr artist cyntaf i gael ei chomisiynu gan Cydlifiad yn aros yn Hwlffordd rhwng 5 a 15 Mehefin 2015 i gwmpasu ei phrosiect Deimwnt Du. Bydd yr ymweliad hwn yn rhoi cyfle i Serena fyfyrio ar y dref a’i hafon ac yn fodd i gyfarfod â phobl allweddol a all rannu eu gwybodaeth am y themâu y bydd y comisiwn yn eu harchwilio. Bydd modd creu cysylltiadau hefyd gyda phobl a sefydliadau a allai gyfrannu at wireddu ei gweledigaeth ar gyfer gwaith newydd safle-benodol.
Bydd Serena yn dychwelyd yn ddiweddarach yn ystod yr haf ar ymweliad hwy pan fydd cyfleodd i ddysgu mwy am ei gwaith celf a chymryd rhan mewn nifer o ffyrdd wrth wneud a pherfformio’r gwaith gorffenedig.
Delwedd: Darlun gan Jack Wheatley o’r gweithdy ‘Darlunio ar yr Afon’
Mae rhaglen haf a hydref 2015 yn cael ei chwblhau ar hyn o bryd. Bydd yn cynnwys amryw o gyfleodd i lywio’r gwaith mae ymgynghorwyr Cyngor Sir Benfro wedi ymgymryd ag ef i baratoi uwch gynllun newydd ar gyfer ein tref sirol. Bydd y rhaglen yn cynnwys:
- cyfleoedd pellach i gydweithio â iDeA Architects ar y Cynllun Mawr
- cyfres o deithiau cerdded thematig
- rhaglen o weithdai creadigol yn y Lab fydd yn arwain at ddigwyddiad cyfranogol a dathliad yn ystod hanner tymor yr hydref
- sgyrsiau gan artistiaid, yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau/sgyrsiau/sgrinio, yn rhan o’r comisiwn Serena Korda
- digwyddiad gofod agored i ystyried “pa wahaniaeth all artistiaid eu gwneud i faes adfywio?”
- gorffen y briffiau a gwahodd cyflwyniadau i gomisiynu gwaith 2 artist newydd.