Nododd yr ymweliad â Bryste ddiwedd cam 15 wythnos o waith ymchwil a datblygu dwys yn hanes y prosiect Cydlifiad. Teithiodd ugain o bobl o Hwlffordd i Fryste dan arweiniad ei maer ysbrydoledig etholedig, George Ferguson i weld sut mae’r ddinas yn parhau i roi lle canolog i’r celfyddydau yn ei strategaeth dros adfywio trefol.

p1180650

Mae dilynwch fi gan yr artist o Ddenmarc Jeppe Hein yn waith celf cyhoeddus hynod syml sy’n peri golygfeydd lluosog. Trosiad da am y 15 wythnos ddiwethaf sydd wedi rhoi myrdd o gyfleoedd i bobl sy’n byw, gweithio a hamddena yn Hwlffordd i rannu eu safbwyntiau am y dref. Bydd hyn yn ein cynorthwyo a’n cais cam 2 i Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o’r rhaglen Syniadau, Pobl, Lleoedd.