Mae ein sgyrsiau hyd yn hyn gyda phartneriaid ac ymgyngoreion Confluence, gyda grwpiau rhanddeiliaid a gyda’r bobl rydym wedi cwrdd â nhw yn Hwlffordd, am natur y gwaith celf cyhoeddus newydd wedi bod yn llawer ehangach a phellgyrhaeddol nag y gallem fod wedi disgwyl ar y dechrau.
Yn ystod ein hymweliadau â Hwlffordd – a diolch i ystod helaeth o waith meddwl a gynhaliwyd eisoes gan gomisiynau Confluence cynharach, rydym wedi datblygu ymdeimlad cryf bod ein comisiwn ni yn ymwneud â mwy na’i nodweddion corfforol ei hun. Ar un lefel, rydym wedi cael ein comisiynu i ddylunio a gosod darn o waith celf cyhoeddus newydd y gobeithir y bydd yn cyfrannu at naws am le, gan ddod â rhywbeth newydd sy’n ‘atgynhyrchiol’, ac yn codi diddordeb yn Hwlffordd a’i phroffil.

Ar lefel arall rydym yn cydnabod rôl ddyfnach a catalytig y gallai’r gwaith ei chael mewn prosiect parhaus llawer mwy a allai fod yn allweddol i ddatblygu’r ‘darlun mwy’. Yn yr achos hwn, perthynas y dref gyda’i hafon yn y dyfodol. Felly, pa fath o waith celf dylai fod? Ble a sut y dylid ei gosod yn neu ar yr afon? Beth fydd yn ei olygu i bobl y dref, ac i ymwelwyr sy’n taro arno?


Y themâu cyson sydd wedi dechrau amlygu yn ein cysyniad sy’n datblygu yw:

  • Hau hadau ar gyfer y dyfodol
  • Newid canfyddiadau
  • Marcio asedau cymeriad lleol ac
  • Cysylltu’r rhannau naturiol.


Mae’r cysyniad yn cynnig seilwaith afon “y gellir byw ynddo”; yn annog bywyd gwyllt; denu trigolion y dolydd uchaf ac ardal isaf y llanw yn ôl i mewn i’r dref, a phobl y dref – y trigolion trefol i fynd allan i’r rhannau naturiol.” Yn ogystal â hyn, mae’r naratif sy’n cyd-fynd â’r cysyniad hwn yn dychmygu Ceidwad chwedlonol sy’n byw ym mhob un o’r gyfres o osodiadau cerfluniol ar hyd Afon Cleddau.

O Bridge Meadow yn y gogledd, drwy ‘Grîn y Pentref’ yn y canol, i’r Ceioedd a pharc sglefrio yn ‘Priory Pass’, i Fortunes Frolic yn y de, mae’r gosodiadau’n codi fel coed; fel pe bai o’r afon ei hun, yn ddirgel, gan ddenu’r gwyliwr i fentro allan ar hyd yr afon.