Cyflwynwyd cais cynllunio ddiwedd 2017 yn dilyn cais cynharach yn y flwyddyn a datblygiadau mwy technegol o’r strwythurau.

Mae lleoli’r gwaith yn y cylch cyhoeddus a chynnig gwaith celf sy’n ymddangos o’r afon wedi bod yn heriol yn nhermau:
•    Cadw’r gwariant o fewn y gyllideb
•    Goresgyn y materion technegol yn gysylltiedig â gosod y gwaith
•    Bodloni’r gofynion diogelwch a mynediad
•    Perchnogaeth o’r safleoedd arfaethedig

Bydd y dyluniadau terfynol mewn efydd gyda ffurfiau cerfluniol o helyg wedi’u gwehyddu, y bydd modd eu symud, er mwyn galluogi cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu cymunedol yn y blynyddoedd i ddod. I ddarganfod mwy, lawrlwythwch datganiad Dylunio a Mynediad Studio Weave.

Y bwriad yw cwblhau gosod y gwaith celf yng Ngwanwyn 2018.

Prif lun: Lluniad manwl gan Studio Weave Designs.