Roedd sesiwn galw heibio dydd Sadwrn gyda Trawsffurfio Hwlffordd ar agor i bawb ac roedd ganddo thema amgylcheddol a chynaliadwy. Mynychodd nifer y sesiwn hwn a daeth nifer o syniadau i’r amlwg mewn dadl adeiladol a bywiog o amgylch y bwrdd. Bu i ni ysgrifennu / darlunio a phlotio’r rhain ar y Map.
Roedd pynciau ar yr agenda yn cynnwys y canlynol:
Glasu’r afon
Ynni Cymunedol: pa gyfleoedd sydd yn Hwlffordd?
Pobl a thraffig: sut allwn i rannu gofod a lleihau llygredd?
Yr Economi lleol: tyfu ein cynnyrch ffres ein hunain
Punt Penfro: manteision arian cyfred lleol
Fel sy’n digwydd yn aml o amgylch map, roedd trafodaethau yn rhoi sylw i lawer mwy o syniadau na’r rhain yn unig. Ein sialens oedd cael y syniadau lawr ar bapur. Dyma ddetholiad:
Ymestyn yr Ardal Cadwraeth i gynnwys glan ddwyreiniol yr afon a chreu ardal warchodedig ar gyfer glasu a hamdden
Cynllunio parc llinol newydd sy’n cysylltu mannau gwyrdd presennol ar hyd yr afon Tipi pitsa yn y parc….
Noctwrn – goleuo atmosfferig o sgwâr y Castell
Ail-drefnu llif y traffig – dwy ffordd o amgylch y perifferi yn Barn St ac ati
Mabwysiadu’r system Ffrengig ar gyfer parcio gwarchodedig, gyda blaenoriaeth i lif traffig sengl mewn strydoedd dwy ffordd gul i osgoi systemau un ffordd.
Cored syrffio – fel yn Munich? (Ar safle lawr yr afon yng nghaeau chwarae Picton).
Lleihau traffig trwodd drwy stopio’r llwybr llygad drwy’r dref. Caniatáu bysiau a ‘mynediad yn unig’ ym man Fictoria/Sgwâr y Castell a’r Stryd Fawr.
Creu ‘gofod a rennir’ mawr yng nghanol y dref gan gynnwys man Fictoria, Sgwâr y Castell, Y Stryd Fawr, Dark St, Sgwâr Mariners a Stryd y Farchnad, ac dwyrain-gorllewin o Stryd y Cei i Sgwâr Swan.
Loc afon lawr yr afon ar gyfer cychod – ardal llifogydd i lawr o’r gored at ddibenion hamdden a chychod. Cynhyrchu Pwer-Hydro o’r dŵr sy’n pasio’r loc newydd.
Arweiniodd dadl am y system gynllunio gyfredol o wneud penderfyniadau yn seiliedig ar gategorïau defnydd anhyblyg a pholisïau cynllunio datblygiad at gynnig diddorol i Hwlffordd. Pam ddim creu map pobl sy’n dod yn ddogfen gynllunio ynddi ei hun ar gyfer ymgynghori?
Allai hyn fod yn rhan, neu gael ei fabwysiadu, yn yr adroddiad cynllunio mawr ar gyfer Hwlffordd? Ar hyn o bryd mae hyn yn cael ei wneud gan ymgynghorwyr cynllunio Nathanial Lichfield ar gyfer Cyngor Sir Penfro. Mae gennym y cyfle i archwilio hyn ymhellach pan fyddwn yn cyfarfod Sarah Goy, Uwch Ddylunydd Trefol yn Nathaniel Lichfield yn ein sesiwn olaf y mis hwn ar ddydd Gwener 25 Medi.
Rhaglen wshop Map MAWR wedi’i ddiweddaru 18.8.15