‘Cyflwyniad i’r Labordy’ – Sharron Harris
Dydd Sadwrn 19 Medi 2015, 10am-4pm
Galwch heibio, dewch i gwrdd â’r tîm sydd y tu ôl i’r Labordy a chael gwybod y diweddaraf am y stori hyd yma …
Dewch i wybod am raglen yr hydref o weithdai, digwyddiadau, sgyrsiau a’r gwahanol ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan. Gwyliwch sioe o ffilmiau byr ynglŷn â’r prosiect a rhannwch eich meddyliau a’ch syniadau i’n hysbysu am gyfnod nesaf o daith y Labordy…