Delwedd: Manylion o Fap Mawr ‘Civitas’: Diwylliant caffi yn Sgwâr Swan a beth am goeden sbesimen fawr? Mae Pound-stretcher yn adeilad allweddol ar bwynt ffocal Stryd y Bont a’r sgwâr.
Cynhaliwyd dwy sesiwn ddiddorol arall ar y Map Mawr yr wythnos ddiwethaf fel rhan o’n rhaglen Hydref o weithdai. Roedd y cyntaf o’r rhain, ‘Civitas’ yn gwahodd aelodau o’r Gymdeithas Ddinesig i ymuno â ni wrth edrych ar ‘botensial’ y dref am ‘welliannau hamdden, diwylliannol a dinesig’. Cynlluniwyd y gweithdy o amgylch taith gerdded fer drwy’r dref ac ar hyd yr afon i gael syniad o’r hyn y gellir ei wneud i wneud defnydd gwell o asedau’r dref sirol ac i ysgogi’r rhaglen ddiwylliannol yn Hwlffordd. Dyma rai o’r prif sylwadau ac awgrymiadau a wnaed;
- Sut allwn ni wneud defnydd gwell o Sgwâr y Castell?
- Adnewyddu arwyddion ffasgia hyll ar siopau, yn enwedig y rheiny yn sgwâr y Castell
- Darparu arwyddion gwell i’r Castell.
- Mae gormod o adeiladau gwag mewn lleoliadau allweddol ac adeiladau hanesyddol nad ydynt yn cael digon o ddefnydd
- Anhawster i gerddwyr groesi Sgwâr y Castell
- Mae angen gwella llwybrau ger yr afon.
Os hoffech rannu eich syniadau ar gyfer datblygu bywyd diwylliannol a chelfyddydol Hwlffordd a mynegi eich barn ar ddyfodol y dref, yna dewch draw i’n sesiwn agored nesaf gydag Artistiaid Sir Benfro ddydd Iau 17 Medi. Mae cyfle pellach i ymgysylltu gyda’r Map Mawr ar ddydd Gwener 25 Medi pan fydd Sarah Goy, uwch ddylunydd trefol yn Nathaniel Lichfield a phartneriaid, a Gordon Gibson yn ymuno â ni.
Mae Nathaniel Lichfield yn ymgynghorwyr cynllunio trefol sydd wedi cael eu penodi i gynnal ymarfer cynllunio mawr ar ran Cyngor Sir Penfro. Mae Sarah a’i chydweithiwr John Cottrell yn gweithio ar hwn.
Mae Gordon Gibson yn gynllunydd trefol a roddodd ddadansoddiad addysgiadol a thaith a sgwrs ysbrydoledig yn Hwlffordd yn dilyn ‘sesiwn agored’ ar y Map Mawr yn ystod lansiad y Lab ym mis Mai. Mae ganddo brofiad helaeth o weithio ar faterion dylunio trefol gyda chymunedau lleol yn rhyngwladol ac yn lleol yn Ne Cymru.
I gael manylion ac amseroedd y rhaglen lawn cliciwch ar ddolen rhaglen wshop Map MAWR wedi’i ddiweddaru 18.8.15