Comisiynwyd yr artist Serena Korda gan Confluence i greu gwaith celf cyfranogol ar gyfer Hwlffordd oedd yn gysylltiedig â’r Afon Cleddau sy’n rhedeg drwy ganol y dref. Gan dalu teyrnged i gyfnod y ‘rêf’ tanddaearol gwrthgyfalafol y 90au cynnar, roedd y Deiamwnt Du yn ymgorffori pwer sonig yr afon i greu trac rêf gyda cherddorion lleol yn rhyngweithio gyda’r afon ac wedi’i gymysgu gan y cyfansoddwr electronig Andy Wheddon. Roedd y diweddglo mawreddog yn ddigwyddiad cyhoeddus ysblennydd ddydd Sul 30 Awst 2015 pan deithiodd system sain swnllyd ar gwch i fyny’r afon i ganol y dref.

Digwyddiadau

Yn arwain at y digwyddiad olaf, roedd nifer o sgyrsiau, sesiynau dangos ffilmiau a thrafodaethau cysylltiedig yn ystod Gorffennaf ac Awst yng nghartref Confluence yn Y Lab, sef yr hen Siop Adrannol Ocky Whites.

Dydd Mercher 15 Gorffennaf, 7pm Rhoddodd Serena Korda sgwrs am ei harfer celf

Dydd Sadwrn 18 Gorffennaf, 2pm Deiamwnt Du – cyflwyniad byr i gomisiwn cyntaf Y Lab gan Serena Korda. “Y Cleddau Gorllewinol: Llwybr Ymfudo a Masnach” – sgwrs gan yr hanesydd lleol Simon Hancock. Dangos Muscle Shoals, rhaglen ddogfen gan Greg Camalier am stiwdio recordio hudolus ar lan yr afon Muscle Shoals, Alabama.

Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf, 2pm “Afon Gysegredig – Ffynhonell Bywyd a Phorth i’r Isfyd” – sgwrs gan Ruth Jones, artist a sylfaenydd Holy Hiatus. Perfformiad byw o Requiem of the Somme gan Sue Howley yn cael ei ganu gan Sue Howley a chôr Lleisiau Pentref Llangwm.

Dydd Sadwrn 1 Awst, 2pm “Ffynhonell i’r Môr: Bioddaearyddiaeth y Cleddau Gorllewinol” – sgwrs gan Hayley Barrett, ceidwar parc, am sut mae’r Cleddau yn dechrau yn y Preseli i’r man mae’n dod i enau Aberdaugleddau, gan gynnwys cyfle i samplu’r dwr am fywyd di-asgwrn-cefn ac asesu ei iechyd.

Digwyddiad Cyhoeddus Olaf – Dydd Sul 30 Awst

Teithiodd y gwch o Neyland i fyny i’r Afon Cleddau i gyrraedd yng Nghanol Tref Hwlffordd gyda’r llanw uchel. Gallai ymwelwyr wneud eu ffordd ar hyd y llwybr ar eu pen eu hunain, neu gadw lle ar Fws y Deiamwnt Du.

webmapwelsh

Map y Deiamwnt Du