Dros haf 2015, bu i’r artist Serena Korda ddwyn cymuned o gerddorion ynghyd o Hwlffordd a thu hwnt i greu gwaith celf sonig wedi’i ysbrydoli gan yr afon Cleddau.
Mae recordiadau maes Serena o drombonau, mandolinau, banjos, llifiau, drymiau (a llawer mwy!) yn cael eu chwarae mewn lleoliadau ar hyd yr afon wedi cael eu hail-gymysgu gan y cyfansoddwr electronig sydd wedi’i leoli yn Sir Benfro Andy Wheddon, i drac dawns wedi’i ysbrydoli gan ddiwylliant ref ar ei anterth.
Mae hwn wedi’i wneud yn CD, a lansiwyd ddydd Sadwrn diwethaf ar gwch oedd yn gwneud taith gerddorol fyny’r afon i Hwlffordd. Dilynodd barti bws a gosgordd o geir ei daith, gan ddod ar draws perfformiadau acwsteg gan Sani Liz Wyman, Shelley Morris, Lleisiau Pentref Llangwm a Richard Joseph. Roedd y rhain yn cymysgu gyda bas trwm y trac rêf yn chwarae ar y cwch i greu effaith hypnotig.
Uchafbwynt personol oedd gwrando ar ganeuon gwerin dolefus Zoe Davis ar yr olygfan dros Goedwig Little Milford wrth i’r gwch lywio rownd y tro mawr yn yr afon yn y pellter.
Er gwaethaf y glaw, bu i’r digwyddiad ddenu cynulleidfa o ledled Sir Benfro, a thu hwnt.
Os hoffech gopi rhad ac am ddim o’r CD, galwch heibio’r Lab neu anfonwch neges i ni yma.
Mae’r afon Cleddau yn adnodd naturiol hardd sy’n llifo drwy galon Hwlffordd. Yn hanesyddol, dyma’r rheswm y daeth tref Hwlffordd i fodoli yma.
Rhan o’r cymhelliant ar gyfer comisiynu Serena Korda ar y prosiect Diemwnt Du oedd taflu sbotolau ar yr afon a herio trafodaeth rhwng y dref a’r afon yn y dyfodol. Os byddai hyn i fyny i chi, beth fyddech chi’n ei wneud o’r afon? Fyddech chi’n hoffi mwy o ddigwyddiadau cerddorol, neu rywbeth arall? Beth fyddai hynny?
Does dim angen dweud fod pawb oedd yn ymwneud â phrosiect y Diemwnt Du yn haeddu diolch. I Serena Korda (wrth gwrs) â’i egni, cymhelliant a gweledigaeth a ddaeth â rhywbeth eithaf anghyffredin i fodolaeth, i’r 20+ o gerddorion a gymrodd ran yn y comisiwn, ac i bawb roddodd eu talent, eu hamser, eu cyngor a’u cefnogaeth gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) Andy Wheddon, Ruth Jones o Holy Hiatus, Paul Williams, Sharron Harris, Hayley Barrett, Simon Horrox, yr Awdurdod Porth, Cyngor Cymunedol Llangwm, Marina Neyland, Cyngor Sir Penfro a’r holl stiwardiaid wnaeth helpu i edrych ar ôl y gynulleidfa yn y digwyddiad.