Wrth i ddigwyddiad Diemwnt Du Serena Korda nesáu ar ddydd Sul 30 Awst, roeddem am i chi wybod ymhle a pha bryd allwch chi brofi’r gwaith celf hwn ar ei daith i fyny Afon Cleddau o Farina Neyland i Stryd Cei yn Hwlffordd.
Mae bws Diemwnt Du yn llawn ond bydd croeso i chi deithio ar eich pen eich hun a dilyn y daith. Yna cewch ymuno á ni i groesawu cwch Black Diamond yn Hwlffordd ar y llanw uchel a dawnsio i drac cerddorol a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth ‘rave’, a gymysgwyd o recordiadau maes rhai cerddorion lleol yn chwarae ar lannau’r afon.
Gan fod hwn yn ddigwyddiad byw ynghyd a chymhlethdodau’r llanw a’r afon, brasamcan yw’r amseroedd i gyd.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn bydd croeso i chi gysylltu.
4.30pm Marina Neyland ger Chandler’s Cafe
Lansio Diemwnt Du a pherfformiad
5.00pm Maes parcio Eglwys Sant Jerome, Llangwm
Gorymdaith gerddorol drwy Heol y Rheithordy a’r llwybr ceffylau
5.20pm Black Tar slip
Perfformiad
6.00pm Maes parcio Little Milford Woods, ger Hook
Perfformiad
6.30pm Y Cei, Hwlffordd
Cyrhaeddiad y cwch a thrac Diemwnt Du yn cael ei chwarae’n llawn
7.15 – 7.45pm Y Cei, Hwlffordd
set Andy Wheddon
8pm Y Cei, Hwlffordd
Cwch Diemwnt Du yn gadael a’r digwyddiad yn dod i ben.