Mae Cydlifiad, mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid sy’n gweithio yn y maes delweddau symudol i fynd i’r afael â chomisiwn i greu celfwaith sy’n ymgysylltu â’r cyhoedd, safle penodol neu ymatebol sy’n tynnu sylw at ac yn adlewyrchu ar y gydberthynas rhwng Hwlffordd, tref sirol hanesyddol a chanolbwynt marchnad Sir Benfro, a’r gefnwlad wledig ac arfordirol mae’n ei wasanaethu.
Gwaith creadigol ar y cyd yw Cydlifiad rhwng PLANED, spacetocreate, iDeA Architects, Cyngor Sir Penfro a Thrawsnewid Hwlffordd. Mae Confluence wedi derbyn cymorth ariannol gan Syniadau:Pobl:Lleoedd, celfyddydau strategol Cyngor Celfyddydau Cymru a menter adfywio. Mae Cydlifiad yn dyfeisio ac yn arbrofi â modelau dychmygol newydd o adnewyddu canol y dref, ymgysylltu â’r gymuned i ysbrydoli a llunio’r broses o gynllunio, dylunio ac adfywio dinesig.
Corff statudol yw PCNPA yn gyfrifol am gadwraeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnwys rhai o’r golygfeydd mwyaf trawiadol a’r amrywiaeth o fywyd gwyllt ym Mhrydain, yn cynnwys gwarchodfeydd natur o bwysigrwydd rhyngwladol, daeareg ac archaeoleg. Mae dyletswyddau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnwys cadw ac ehangu nodweddion naturiol y dirwedd hon, yn ogystal â diwylliant a threftadaeth y Parc.
Mae teitl y comisiwn Porthmon Sir Benfro yn cyfeirio at arferiad a fu o yrru anifeiliaid i’r farchnad ac ar hyd y llwybrau hanesyddol drwy Sir Benfro a gyrrwyd y gwartheg a’r da byw hyn i Hwlffordd, ac yna ymlaen i diroedd pori a marchnadoedd Lloegr.
Gan ystyried teitl y comisiwn fel trosiad, bydd yr artist yn ymgolli ei hunan o fewn lleoliad ac yn gweithio ar y cyd gyda phobl i gynhyrchu celfwaith sy’n ymateb i’r perthnasau a’r cysylltiadau, hanesyddol a/neu gyfoes, rhwng Hwlffordd a’i gefn gwlad gweledig ac arfordirol.
Cynigir ffi gynhwysol o £12,000 am y comisiwn
Am friff llawn cysylltwch â: kate.wood@pembrokeshire.gov.uk
pembrokeshire-drover-brief-cymraeg
Dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau: 5pm, dydd Mercher, 14 Hydref 2015
Dyddiad y cyfweliadau Dydd Iau, 12 Tachwedd 2015