“Mae bas sy’n tewychu’r gwaed yn clecian ein brestiau, gan ein cludo o’r goedwig gan ddawnsio, crio, chwysu, chwerthin, curo, gweiddi a chlapio.”
Diemwnt Du, Dydd Sul 30 Awst o 4yh
Mae cwch parti gwyllt yn teithio i fyny’r afon o Neyland i Hwlffordd, gan gario system sain anferth a fydd yn chwarae Black Diamond, trac cerddorol electronig wedi ei wneud gyda phobl Hwlffordd. Chwaraewyr mandolin yn plycian ym Mhort Lion, methan dirgel yn ffisian yn Llangwm, trombonydd yn gwneud bonllefau eliffant yn adfeilion Maenor Boulston. Mae hanesion lle a phobl yn cydgyfarfod â diwylliant partïon gwyllt yr 1990au cynnar yng Ngorllewin Cymru. Gan ddod â’r Cleddau Gorllewinol yn fyw ar lanw uchel sy’n addo i dorri traethellau Hwlffordd. Paratowch i ddod ar draws rhai syrpreisys cerddorol ar hyd y ffordd.
Mar Diemwnt Du yn prosiect gan yr artist Serena Korda, gweler http://serenakorda.com