LLEOEDD HANFODOL II

Seminar a gynhaliwyd ddydd Mercher 23 Mawrth 2016 10am–4pm.

vitalplacesii_back1

Mae gan bob un ohonom ein hoff leoedd. Y nhw sydd wrth wraidd ein bywydau. Y lleoedd lle’r ydym yn cwrdd, treulio amser yn ymweld â hwy a’r lleoedd rydym yn byw ynddynt. Mae lleoedd yn datblygu’n gyson, ac maent yn adlewyrchu ein bywydau newidiol a’r byd beunyddiol o’n cwmpas.

Mae patrymau’r gorffennol yn dal gyda ni, ond beth am y presennol? Pam fod rhaid i bobl ‘ddod i’r dref’ yn yr oes ddigidol?

Sut allwn wneud y lleoedd rydym yn byw ynddynt yn well ar gyfer y bobl sy’n byw yma, a sut allwn ymgysylltu â phawb yn y broses lle caiff lleoedd eu gwneud a’u hail-wneud?

Bydd tri siaradwr, gyda safbwyntiau amrywiol yn archwilio beth mae hyn yn ei olygu yn eu hymarfer eu hunain, a sut ellir manteisio ar hyn yn greadigol i ddechrau modelau newydd ar gyfer celf ac adfywio yn Hwlffordd.

Rhaglen

10.00 Cofrestru/coffi
10.20 Cyflwyniad a chroesawu Gordon Gibson, dylunydd trefol, Trilein
10.40 Julian Dobson Cyfarwyddwr Urban Pollinators
11.20 Egwyl am baned
11.40 Rosie Herve, Pensaer – Studio Weave
12.20 Cinio
13.00 Yr Athro. Paul Haywood Dirprwy Ddeon yr Ysgol Gelf a Dylunio ym Mhrifysgol Middlesex
13.40 Sesiwn Holi ac Ateb Panel
14.20 Trafodaeth grŵp: safbwyntiau lleol
15.20 Egwyl te
15.40 Gair i gloi gan y Cadeirydd
16.00 Diwedd

Bywgraffiadau y siaradwyr

Julian Dobson yw awdur How to Save Our Town Centres, cyhoeddwyd gan Policy Press yn 2015. Mae’n ysgrifennwr, siaradwr a sylwebwr sy’n canolbwyntio ar sut all leoedd fod yn well i bawb.

Ef yw cyfarwyddwr yr ymgynghoriaeth ymchwil a pholisi Urban Pollinators (www.urbanpollinators.co.uk ). Ef oedd cyd-sylfaenydd ac am 12 mlynedd bu’n gyfarwyddwr golygyddol New Start, cylchgrawn y DU i ymarferwyr adfywio, ac yn flaenorol fe olygodd Inside Housing, cyhoeddiad cenedlaethol Prydain ar gyfer gweithwyr proffesiynol tai cymdeithasol.

Mae’n Gymrawd â Chymdeithas Brenhinol y Celfyddydau, aelod bwrdd y Ganolfan ar gyfer Strategaethau Economaidd Lleol a chynghorwr allanol Adran Astudiaethau a Chynlluniau Trefol ym Mhrifysgol Sheffield.

Yr Athro Paul Haywood yw Dirprwy Ddeon yr Ysgol Gelf a Dylunio ym Mhrifysgol Middlesex ble mae ganddo Gadair mewn Ymarfer Celfyddyd Gain. Mae’n dal Cadair anrhydeddus mewn Ymgysylltu Cymunedol Creadigol ym Mhrifysgol Salford.

Ymunodd yr Athro Haywood â Phrifysgol Middlesex ym mis Medi 2013 i ymgymryd â rôl y Dirprwy er cymorth i’r Deon, yr Athro Hilary Robinson. Mae ei brif swyddogaethau’n cynnwys arolygu ansawdd a datblygiad y cwricwlwm, profiad y myfyrwyr, partneriaethau rhyngwladol ac ymgysylltu busnes a chymuned.

Mae gweithgareddau ymchwil Paul Haywood yn seiliedig ar ymarfer, gan ganolbwyntio ar fenter ddiwylliannol ymatebol cymdeithasol a phrosesau creu ar y cyd sy’n annog allbynnau artistig. Wedi dechrau ei yrfa fel artist annibynnol, mae wedi cydweithio ar draws nifer o ddisgyblaethau; cynhyrchu prosiectau mewn cyd-destunau amrywiol sydd wedi mynd i’r afael ag ystod lawn o sefyllfaoedd addysgol, budd cymdeithasol ac ymgyrchoedd cynhwysiant a rhaglenni corfforol ac adfywio cymdeithasol. Yn y blynyddoedd diweddar bu’n gweithio yng ngwasanaeth mentrau cynaliadwy dan arweiniad sefydliadau yn y sector gwirfoddol a rhwydweithiau dinasyddion. Y diweddaraf ohonynt yw dyluniad cydweithredol sy’n ceisio datblygu effeithiolrwydd cyd-ddysgu agored mewn cymunedau gweithgar.

Ymunodd Rosie Hervey â Studio Weave yn 2013 ar ôl cwblhau ei thraethawd Diploma ar ddarpariaeth tai canol dinas ar gyfer yr henoed.

Cyn ymuno â Studio Weave, gweithiodd Rosie i Publica, ymgynghoriaeth tir y cyhoedd a Theatr yr Arcola ar ddatblygiad eu rhaglen allgymorth cynaliadwyedd.

Yn Studio Weave bu Rosie yn gweithio ar y cynllun adfywio 19 erw o dir y cyhoedd yn Croydon, yn gweithio i ddatblygu a darlunio ‘dewiswch eich stori antur eich hunan’ a ddefnyddiwyd i ymgysylltu â phobl ifanc lleol a chyfathrebu strategaeth lle y cyhoedd ar gyfer Croydon.

Yn ddiweddar bu’n gweithio gyda chymuned yn Iwerddon ar brosiect adfywio theatrig gyda’r nod o ail-ddychmygu’r stryd fawr leol gyda’i gilydd. Yn angerddol at ganfod dulliau i gynnwys pobl yn y gwaith o ‘wneud’ eu hardal leol, mae Rosie yn mwynhau dod o hyd i ffyrdd arloesol o gynnwys y gymuned yn ystod camau adeiladu’r prosiect.

Sefydlwyd yn 2006, mae Studio Weave yn Bractis Pensaernïaeth Siartredig RIBA (Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain) arobryn yn Llundain. Maent yn cydbwyso dull hwyliog, ddiduedd i greu corff amrywiol o waith yn y DU a thramor. Yn gwerthfawrogi hynodweddau, o’r nodweddion sy’n gwneud rhywle yn unigryw, i sgiliau penodol meistr grefftwr, maent yn ceisio harneisio cryfderau’r prosiect a’i dîm i greu rhywbeth nodedig ac o ansawdd eithriadol.