Mae Cydlifiad yn gwahodd ceisiadau gan arlunwyr gydag un ai arfer celfyddydol perfformiadol neu gyfunol i ymgymryd â chomisiwn i greu a chynhyrchu gwaith celf yn y gymdeithas ac mewn safle penodol yn Hwlffordd. Ymateba’r comisiwn, sy’n rhan o raglen tair blynedd i brofi modelau newydd o ailgynhyrchu a chydweithio trwy’r celfyddydau, yn uniongyrchol i’r syniad o sut y gall pobl a cherbydau lywio a rhannu lle cyhoeddus yng nghanol Hwlffordd.
Mae Cydlifiad yn gydweithrediad creadigol rhwng PLANED, spacetocreate, iDeA Architects, Transition Haverfordwest a Chyngor Sir Penfro sydd wedi derbyn cyllid gan Syniadau: Pobl: Lleoedd, menter celfyddydau strategol ac adfywio Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae Cydlifiad yn creu a phrofi model newydd a llawn dychymyg o adfywio canol trefi, ymgysylltu â’r gymdeithas i ysbrydoli a siapio’r broses o gynllunio, dylunio ac adfywiad trefol yn Hwlffordd.
Mae Shared space ahead yn rhoi cyfle i ymgysylltu â’r gymuned yn y broses adfywio mewn lle cyhoeddus pwysig yn Hwlffordd. Y safle ar gyfer y comisiwn yw Sgwâr y Castell. Er ymdrechion i wella adeiladwaith trefol y sgwâr, parha materion allweddol fel llif parhaus o gerbydau sy’n lliniaru yn erbyn ei swyn fel lle cyhoeddus. Er bod gan y sgwâr osodiad dinesig, wedi’i amgylchynu gan adeiladau o ansawdd pensaernïol cain, mae eto i wireddu ei botensial o gael synnwyr cofiadwy o le.
Gan gymryd teitl y comisiwn fel trosiad, bydd yr arlunydd/ymarferydd yn ymgolli o fewn Hwlffordd ac yn gweithio ar y cyd gyda’i phobl i gynhyrchu gwaith celf, sydd hefyd yn ymateb pryfoclyd i’r pwnc.
Mae’r comisiwn yn ymestyn yr ymgynghoriad a ddechreuwyd yn y sesiynau ‘Map Mawr’. Bwriedir arddangos trwy ddigwyddiad dros dro sut y gallai lle cyhoeddus yn Hwlffordd gael ei lywio fel ‘lle a rennir’, ac yn y pen draw, sut gall yr agwedd hon gael ei hymestyn trwy ganol y dref hynafol yn y dyfodol.
Cynigir ffi gynhwysol o £22,000 ar gyfer y comisiwn.
Am grynodeb llawn, cysylltwch â: kate.wood@pembrokeshire.gov.uk neu lawrlwytho yma:
sharedspaceahead-final19-10-15
shared-space-ahead-castle-square-views
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, Dydd Gwener, 27 Tachwedd 2015
Dyddiad cyfweliadau: Dydd Gwener, 08 Ionawr 2016