Mae gan Janus, y Duw Rhufeinig ddau wyneb; un sy’n edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu ac un arall sy’n edrych tua’r dyfodol. Mae mis Ionawr yn amser priodol i edrych yn ôl ac edrych ymlaen, i fyfyrio ar Confluence a’r rhaglen arbrofol hon o adfywio Hwlffordd drwy’r celfyddydau. Amser hefyd i adolygu beth sydd wedi cael ei gyflawni a sut mae hynny wedi bod o fudd i’r dref. Bydd gan bawb sydd wedi cyfrannu dros y tair blynedd ddiwethaf eu persbectifau unigryw eu hunain, ac i roi’r rhain mewn cyd-destun dyma rhai ffeithiau allweddol:

  • Cofnodwyd o leiaf 7000 o fynychwyr mewn mwy na 70 o ddigwyddiadau
  • Mae mwy na 50 o artistiaid, sefydliadau celfyddydol a gweithwyr proffesiynol ym maes adfywio wedi cyfrannu o Sir Benfro, Cymru a’r DU
  • Mae mwy na 90% o’r artistiaid a’r ymarferwyr creadigol a fu’n cefnogi’r prosiect yn byw ac yn gweithio yn Hwlffordd neu’r ardal gyfagos yng Ngorllewin Cymru

Daeth y rhaglen i ben Noson Calan Gaeaf, gydag Afon o Oleuadau – sioe sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn, ac eleni torrwyd tir newydd gyda mwy o bobl nag erioed yn cymryd rhan – cerddodd dros dair mil yn yr orymdaith lusernau drwy’r dref ac ar hyd yr afon cyn ymgasglu yn Fortunes Frolic a phrofi’r diweddglo tanbaid.

Yr haf diwethaf cynhaliodd Confluence, Gynhadledd ar gyfer y Cyngor Celfyddydau a phartneriaid y chwe phrosiect arall yn y rhaglen ‘Creu Cymunedau Cyfoes’ o bob cwr o Gymru. Thema’r digwyddiad oedd ‘Etifeddiaeth.’ Yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf, mae’r ffocws wedi bod ar adeiladu ar etifeddiaeth Confluence, gan chwilio yn ddyfal am ffyrdd i fanteisio ar lwyddiannau hyd yn hyn ac i ddarparu llwyfan ar gyfer rhywbeth newydd ac adfywiol yn y flwyddyn i ddod.

Mae Gweledigaeth Confluence i ail ddychmygu’r porthladd hynafol, fel lle bywiog ac arbennig, wedi’i ailgysylltu â’r afon, yn llawn bywyd, ac yn llawn egni creadigol ei bobl, yn un deng mlynedd. Byddai cynllun ‘Lle Arbennig’, Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn darparu’r cyfle i fynd â’r weledigaeth hon yn ei blaen gyda phartneriaeth newydd ac ehangach a fyddai’n cynnwys sefydliadau diwylliannol a dinesig lleol. Cyflwynwyd cynnig ym mis Rhagfyr, yn dilyn llwyddiant cam cyntaf y cais, a bydd canlyniad y cais yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Mawrth.

Bwriad y Cynllun Lle Arbennig yw rhoi treftadaeth a diwylliant wrth wraidd gweledigaeth lleol ar gyfer rhwng 5 ac 8 o leoedd ledled Cymru, gan wneud newid sylweddol i gyfraniad treftadaeth yn yr ardaloedd hynny, a’i ymgorffori yng nghynlluniau’r lleoedd ar gyfer y dyfodol.

Wrth edrych ymlaen, byddai cais llwyddiannus yn ddechrau ar raglen dair blynedd newydd a fyddai’n golygu:

  • Cynnig rhaglen gelfyddydol wedi’i hysbrydoli gan, ac yn tynnu ar dreftadaeth ddiwylliannol a lleol yr ardal
  • Adeiladu adnodd ar-lein i hysbysu ac annog rhwydweithio ymysg mentrau a sefydliadau lleol
  • Sefydlu menter gymdeithasol newydd a fyddai’n cefnogi ac yn datblygu’n weithredol prosiectau treftadaeth ac adfywio yn y dref, ac yn darparu arbenigedd proffesiynol ac ym maes adfywio ynglŷn ag ariannu, rheoli prosiectau a dylunio pensaernïol ar gyfer prosiectau cymunedol a chynlluniau cyfalaf ehangach mewn mannau cyhoeddus