2013
Hydref
Cyngor Celfyddydau Cymru’n lansio Creu Cymunedau Cyfoes.
Mae partneriaeth Confluence wedi’i ffurfio gyda golwg ar wneud cais ar gyfer prosiect ymchwil a datblygu Cam 1 i archwilio’r potensial i gynnal prosiect celfyddydol ac adfywio yn Hwlffordd.
2014
Mawrth – Gorffennaf
Cais Cam 1 wedi’i gymeradwyo.
Mae’r consortiwm yn rhedeg rhaglen ymchwil a datblygu Cam 1 yn Hwlffordd.
Lawrlwythwch yr adroddiad ymchwil a datblygu yma Confluence Stage 1 report (adroddiad Cam 1 Confluence).
Cais ar gyfer Cam 2 wedi’i gyflwyno.
Medi
Cyflwyno cynllun y prosiect i Gyngor Celfyddydau Cymru.
Tachwedd – Rhagfyr
Cyhoeddi llwyddiant am gais Cam 2 Confluence sef un o saith prosiect a gynorthwyir ledled Cymru.
Gwaith yn dechrau i ddatblygu’r rhaglen ar gyfer y flwyddyn gyntaf.
2015
Ionawr- Ebrill
Mae cwmni creadigol lleol A & E Adventures wedi’i gomisiynu i weithio â 5 ysgol gynradd i ddylunio a gwneud set o Faneri Gŵyl wedi’u hysbrydoli gan yr afon.
Adnewyddu’r siop trefnu teithiau yn hen siop Ocky White i greu gweithdy dros dro, lle cyfarfod ac arddangos.
Mai
Cynhelir Lansiad y Labordy yn ystod hanner tymor y Sulgwyn, wedi’i ragflaenu gan gomisiwn bach gyda’r Arlunwyr Davis a Jones sy’n gweithio gyda phobl Hwlffordd i greu Symbylydd Hanes ar Hap Hwlffordd (RSG).
Maer Hwlffordd, Sue Murray yn lansio’r rhaglen gyda wythnos o weithgarwch yn y Labordy. Mae’r wythnos yn dechrau gyda’r maer yn dadorchuddio Hanes y baneri. Yna gwahoddir yr hen a’r ifanc fel ei gilydd i gymryd golwg ffres ar Hwlffordd mewn gweithdy creadigol – Llunio ar yr Afon.
Mae dydd Mawrth a dydd Mercher yn arddangos gwaith deuawd dylunio lleol Freshwest gyda’r gyntaf mewn cyfres arfaethedig o sgyrsiau arlunwyr. Ceir gweithdy adeiladu cyfranogol yn yr awyr agored i ddilyn.
Mae’r wythnos yn parhau gyda Gwnewch eich llecyn – darlun ar y palmant yn yr awyr agored gan gydweithio gyda grŵp o fyfyrwyr dylunio o Goleg Sir Benfro. Cynhelir hyn ochr yn ochr â’r gyntaf o raglenni gweithdy arfaethedig y Map Mawr. Mae’r diwrnod yn parhau gyda sesiwn Dangos a dweud fin nos a lansio RSG Hwlffordd.
Daw’r wythnos lansio i ben gyda thaith dywys ysbrydoledig gyda’r Cynlluniwr Trefol Gordon Gibson
Mehefin – Awst
Mae ein Comisiwn Arlunydd cyntaf Black Diamond gyda Serena Korda yn rhedeg drwy gydol mis Gorffennaf ac Awst. Mae’n cynnwys ail sgwrs arlunydd gyda chyfres o dair sgwrs bellach i ddilyn yn archwilio gwahanol agweddau’r afon a’r comisiwn Black Diamond.
Daw’r comisiwn i ben â pharti gwyllt ar gwch gan gyflwyno’r gwaith celf i fyny’r afon o Neyland i Hwlffordd ar lanw mawr uchel ddiwedd Awst.
Awst – Rhagfyr
Dechreua tymor yr hydref gyda Lab Agored, cyfle i gael gwybod rhagor am Confluence wrth fwyta yn y Caffi Pop Up Mentro’ch Lwc sy’n arbrawf gan bartner Confluence, Trawsnewid Hwlffordd
Yn cael ei gynnal dros gyfnod o wyth wythnos rhwng 16eg Awst a 7fed Hydref 2015, mae’r Map Mawr yn ymgysylltu dros 100 o bobl mewn mapio arbrofol o lan afon y dref, gan rannu eu syniadau, gobeithion a’u dyheadau ar gyfer y dref. Mae’r broses hefyd yn darparu llwybr i mewn i broses gynllunio’r Meistr sy’n cael ei wneud gan Nathaniel Lichfield a Phartneriaid ar ran Cyngor Sir Penfro. Cymerwch olwg ar adroddiad y Map Mawr yma the-big-map-report.pdf
Gwahoddir arlunwyr a’r gymuned ehangach i weithio ag Alan Williams o Weithdy Argraffu Abertawe i wneud argraffiadau wedi’u hysbrydoli gan yr afon.
Drwy gydol fis Hydref, gan weithio mewn partneriaeth â phrosiect Llawen Celfyddydau SPAN a’r arlunydd Toby Downing, bydd cannoedd o bobl o Hwlffordd a’r cyffiniau gwledig yn gwneud ac yn cario llusernau ar gyfer yr orymdaith lusernau Afon o oleuadau fawreddog, wedi’i hysbrydoli gan hanes y ferch Ysgerbwd a’r pysgotwr.
Ar y cyd â Labordy Hwlffordd, bydd Kathryn Lambert, comisiynydd, cydweithredwr a churadur celf a thechnoleg gyda bloc yn cyflwyno’r syniad o Dechnoleg Wyllt yn y drydedd mewn cyfres o sgyrsiau arlunwyr, cyn dod â grŵp rhyfeddol o amrywiol at ei gilydd o 35 o bobl o feysydd celf, technoleg a’r awyr agored am Wild Hack gyntaf erioed ar ddydd Sadwrn, 24ain Hydref.
Ddydd Mercher, 18 Tachwedd, mae’r arlunydd a’r ffotograffydd John Kippin yn rhoi’r bedwaredd sgwrs arlunydd. Mae hon yn ragarweiniad i gyflwyniad cyweirnod at Wneud y Cysylltiadau yn ddigwyddiad man agored undydd gyda 25 o gyfranogwyr yn bresennol ag amrywiaeth eang o ddiddordebau personol a phroffesiynol. Lawrlwythwch adroddiad o’r diwrnod yma Making the connections report(1)
Mae blwyddyn gyntaf y prosiect yn dod i ben ag ymweliad ewch i weld Frome ysbrydoledig.
2016
Ionawr – Mawrth
Caiff Syniadau’r Labordy ei lansio ym mis Chwefror. Mae hon yn sesiwn galw heibio fisol a rheolaidd ar ddydd Mercher cyntaf bob mis fel mainc arbrawf ar gyfer y celfyddydau ac adfywio yn Hwlffordd.
Yn gyfres o ddigwyddiadau ymgynghori byr, mae Lleoedd Newidiol yn ymgysylltu pobl lleol yn y broses o ddatblygu’r comisiwn cyfalaf sy’n cael ei gynllunio ar gyfer y dref.
Cychwynnodd y cyntaf o’r syniadau a ddatblygwyd drwy Syniadau Labordy gyda Make 4 sef cyfres o bedwar gweithdy ar ddydd Sadwrn wedi’u hanelu at deuluoedd. Roeddent dan arweiniad yr arlunydd lleol Louise Bird.
Yn dilyn y seminar Lleoedd Hanfodol canolog yn y cyfnod Ymchwil a Datblygu, mae Lle i fod: Lleoedd Hanfodol II yn cael ei gynnal 23 Mawrth.
Ebrill- Gorffennaf
Mae Karen Ingham yn cyflwyno sgwrs am ei chomisiwn Porthmon Sir Benfro i lansio tymor newydd o sgyrsiau yn y Labordy. Ar 27 Ebrill, yr ail yn y gyfres, ceir trafodaeth fywiog gydag Emma Geliot, ymgynghorwr celfyddydol a golygydd y cylchgrawn CCQ, a roddodd ei chyflwyniad am Stiwdios Arlunwyr.
Mae wythnos gŵyl Hwlffordd, rhwng 23 a 30 Gorffennaf, yn darparu cyfle rhagorol i’r Labordy greu rhaglen o weithgarwch celfyddydol ac adfywio yn ymgysylltu â channoedd lawer o bobl leol ac ymwelwyr â’r dref.
Mae ffilm Karen Ingham am Borthmon Sir Benfro wedi’i gosod mewn siop wag ar yr hen bont a chaiff ei dangos drwy gydol wythnos yr ŵyl cyn symud i Oriel y Parc.
Yn gweithio ag arlunwyr sydd wedi’u lleoli yn stiwdios Canolfan Siopa Glan-yr-afon, bydd siediau celf yn ymddangos ar hyd yr afon. Bydd Pauline Le Britton, Ruth Sargeant a Gina Hughes a penny d jones a chymdeithion yn trigo ynddynt.
Ymddengys cyfres o waith celf gan arlunwyr lleol o amgylch y dref fel rhan o Dorri allan o’r Oriel. Mae hon yn un o ddwy fenter wedi’i chefnogi gan bartner Confluence sef Trawsnewid Hwlffordd. Mae’r llall yn ddigwyddiad adrodd straeon a barbeciw epig ar safle blaenllaw Orchard Mawr.
Mae’r Cynllun Mawr yn dianc o’r Labordy ac yn mynd ar lan yr afon am dri diwrnod o gynllunio a chwarae cyfranogol dan arweiniad penseiri iDeA.
Delweddau a ddangosir: Tu mewn i’r hen Swyddfa Ddosbarthu, Map hanesyddol Hwlffordd, Baneri’r Ŵyl tu allan i’r Labordy, gweithdy adeiladu Freshwest, Parti gwyllt ar gwch Black Diamond Serena Korda, Ysgerbwd Toby Downing gan Jenny Blackmore, Lle i fod: Argraffiadau graffig o Hwlffordd.