Ddydd Mawrth 26 Mai am 7pm yn y Lab, adroddodd Simon Macro ei stori’n adeiladu stiwdio ddylunio lwyddiannus yn Sir Benfro.

Mae Freshwest yn ddeuawd dylunio lleol sydd wedi ennill gwobrau ac yn enwog am eu gwaith arbrofol a chwareus. Gan weithio o’u stiwdio a gweithdy y tu allan i Ddinbych y Pysgod, mae cynnyrch Freshwest yn gymysgedd eclectig o ddodrefn, goleuo a chynllunio yn nhir y cyhoedd. Mae eu gweithiau wedi’u harddangos mewn orielau ac amgueddfeydd ledled y byd a’u cynnwys mewn sawl cyhoeddiad dylunio. Mae’r cwmni wedi dal sylw’r wasg ryngwladol yn rheolaidd ac mae’r newyddiadurwr a’r curadur Maria Cristina Didero o’r Eidal wedi disgrifio Freshwest fel “un o’r stiwdios dylunio mwyaf beiddgar a gweledigaethol ym maes dylunio rhyngwladol”.

Enillodd Marcus Beck a Simon Macro raddau dosbarth cyntaf mewn celfyddyd gain o Brifysgol Fetropolitan Manceinion a Phrifysgol Brighton yn ôl eu trefn. Ar ôl graddio yn 2000, dechreuodd Simon a Marcus y newid o’u gwreiddiau ym myd celfyddyd gain i fyd dylunio. Gweithiodd Simon gyda’r cynllunydd enwog Thomas Heatherwick tra dechreuodd Marcus gynhyrchu cyfres o ddarnau dodrefn arbrofol. A hwythau’n adnabod ei gilydd ers eu plentyndod ac yn rhannu’r un delfrydau creadigol, daeth Marcus a Simon at ei gilydd i sefydlu Freshwest yn 2006.

Yn 2007 enillodd Freshwest Wobr Dylunio Elle Deco ac yn 2009 enillodd gydnabyddiaeth dros y byd pan lansiwyd ei lamp Brave New World enwog gan gwmni dylunio MOOOI Marcel Wanders o’r Iseldiroedd. Buont yn cydweithio â brand moethus Louis Vuitton ac maent yn parhau i gynhyrchu gwaith a drwyddedwyd i’w gynhyrchu neu ei werthu fel darnau dylunio cyfyngedig. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf fe’u gwahoddwyd i weithio ar brosiectau ar raddfa fwy, o du mewn i dai bwytai i bont droed gyhoeddus. Ar hyn o bryd maent yn gweithio ar sawl prosiect yn nhir y cyhoedd, yn cynnwys amrywiaeth o gadeiriau ar gyfer y datblygiad promenâd ym Mae Colwyn, giât wedi’i chomisiynu ar gyfer Parc Amgueddfa Abertawe a sgwâr cyhoeddus newydd yng Nghaerloyw.

Yn aml mae gwaith Freshwest yn golygu adwaith cerfluniol i ddeunyddiau, dylunio ac adeiladu gwrthrychau â llaw heb gael cynllun rhagdybiedig yn ei le. Mae llawer o’u gweithiau’n cynnwys naratif neu elfen o chwarae ar raddfeydd, ac yn mynd a’r gwyliwr ar drywydd darganfod. Disgrifiodd Marcus a Simon eu gwaith yn syml, “ein nod yw peri i wrthrychau diddorol a hynod wneud i chi aros, gwenu ac ystyried”.