Mae’r arlunydd, dylunydd a gwneuthurwyr ffilmiau Karen Ingham ar hyn o bryd yn gweithio ar gomisiwn diweddaraf Confluence sef Porthmon Sir Benfro.

Cyfeiria Porthmon Sir Benfro at yr arfer a fu o fugeilio da byw i’r farchnad a’r llwybrau hanesyddol drwy Sir Benfro yr aed â gwartheg a da byw i Hwlffordd, ac yna ymlaen i borfeydd a marchnadoedd yn Lloegr.

Gwelir Porthmon Sir Benfro fel trosiad gan alluogi Karen i weithio ar y cyd â phobl i gynhyrchu gwaith celf sy’n ymateb i berthynas a chymdeithas, yn hanesyddol ac/neu cyfoes, rhwng Hwlffordd a’i chefn gwlad gwledig ac arfordirol.

“Mae thema y porthmon (y ‘cowboi’ gwreiddiol) a’r rhyngberthynas rhwng y porthmon, y llwybrau, y dref, a’r weithred o deithio (symud o’r gorffennol i’r presennol ar un ystyr) yn ganolog i’r agwedd gysyniadol.” – Karen Ingham

Gallwch ddilyn cynnydd Karen drwy flog y prosiect.

Mae Karen yn rhoi sgwrs ar ei gwaith, arferion a Phorthmon Sir Benfro yn y Lab ar 13 Ebrill 2016 am 7pm – gwelwch manylion digwyddiad.

Llun: Marchnad wartheg Hwlffordd gan Karen Ingham